Yr oriel luniau o blant gyda salwch prin

  • Cyhoeddwyd
IsabellaFfynhonnell y llun, Ceridwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y llun yma o Isabella, o Lerpwl, sydd efo parlys yr wyneb, ei dynnu yn ysbyty plant Alder Hey. Yn y llun hefyd mae'r llawfeddyg o Rhyl Adel Fattah, yr anesthetydd Nuria Masip, ac yn y cefndir yn cadw golwg ar y cyfan mae Carla, mam Isabella.

Mae lluniau o blant yn aml yn tynnu ar y galon ac mae hynny'n sicr yn wir mewn cyfres o ffotograffau gan un Gymraes - gan fod pob un ohonyn nhw gyda salwch prin.

Bedair blynedd yn ôl fe ddechreuodd Ceridwen Hughes brosiect i dynnu lluniau plant gyda chyflyrau iechyd anghyffredin gan fod ei mab ei hun gyda'r cyflwr Syndrom Moebius.

Ond mae'r syniad gwreiddiol wedi bod mor llwyddiannus mae wedi datblygu i fod yn gyfres o brosiectau gwahanol sy'n portreadu plant ac oedolion er mwyn rhoi llais i unigolion sydd mewn sefyllfa unig.

Ffynhonnell y llun, CERIDWEN HUGHES
Disgrifiad o’r llun,

Isabella, o Lanelwy, gafodd ddiagnosis o Pitt-Hopkin pan oedd hi'n ddwy oed

Meddai Ceridwen Hughes, sydd wedi tynnu tua 70 portread erbyn hyn: "Gyda rhai o'r bobl dwi wedi tynnu eu lluniau nhw, y nhw o bosib ydi'r unig rai yn y byd efo'u cyflwr nhw.

"Does yna unlle iddyn nhw fynd i gael help neu gefnogaeth, does 'na ddim grŵp cefnogaeth, a tydi nhw ddim yn gwybod sut fydd eu hafiechyd yn datblygu. Tydi nhw'n gwybod dim.

"Dwi mor freintiedig o gael gwneud be' dwi'n gwneud, oherwydd dwi'n cael dweud straeon mewn ffordd greadigol ond yn bwysicach na hynny dwi'n cael helpu pobl deimlo ychydig yn llai unig ac ar wahân gan eu bod nhw'n cael y cyfle i ddweud eu stori."

Ffynhonnell y llun, CERIDWEN HUGHES
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ffion a Poppy, chwiorydd o Wrecsam, Syndrom Marfan

Ymysg y rhai wnaeth rannu eu stori ar wefan Same but Different ydi mam i dri sy'n byw yn Wrecsam. Mae pob un o'i phlant wedi cael diagnosis o Glefyd Huntington - clefyd erchyll sy'n cael ei ddisgrifio fel cyfuniad o glefydau Parkinson, Alzheimer a Motor Niwron.

Doedd Kim Jones ddim yn ymwybodol o'r clefyd tan i dad eu plant gael ei daro'n wael a chael diagnosis o Glefyd Huntington. Roedd Kim yn disgwyl eu trydydd plentyn Elizabeth ar y pryd - ac roedd siawns o 50% y byddai'r clefyd yn cael ei basio ymlaen i'r plant.

Meddai: "Petawn i heb fod yn feichiog gyda fy nhrydydd plentyn fyddwn i byth wedi cael plant. Dwi'n eu caru nhw'n fawr, ond does 'na ddim siawns, taswn i'n gwybod bryd hynny beth ydi Huntington's, y byddwn i wedi eu rhoi nhw drwy'r hyn maen nhw'n mynd drwodd rŵan."

Fe wnaeth ei phlentyn hynaf Christopher ddarganfod bod ganddo'r cyflwr 20 mlynedd yn ôl. Roedd yn 18 oed ar y pryd ac mae bellach mewn cartref nyrsio. Mae cyflwr y plentyn ieuengaf Elizabeth wedi dirywio'n sydyn - ac mae'r mab canol Jonathan nawr wedi cael gwybod bod gan yntau Glefyd Huntington hefyd.

Ffynhonnell y llun, Ceridwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Bennett, o Wrecsam

Meddai ei fam: "Y peth gwaethaf ydi, mae Jonathan yn gwylio ei frawd a'i chwaer yn mynd drwy bopeth ac mae'n gwybod yn union beth sy'n mynd i ddigwydd iddo ac mae hynny'n torri fy nghalon."

Dywedodd Jonathan Bennett wrth y prosiect: "Os ti'n dechrau meddwl amdano, ei di'n wallgof. Ti'n gorfod parhau efo dy fywyd.

"Does dim ffordd o drin Clefyd Huntington ar y funud. Mae mor bwysig bod cymaint o ymchwil a phosib yn cael ei wneud i ddod o hyd i driniaeth gan ei fod yn afiechyd mor ofnadwy."

Bydd Ceridwen yn trafod efo'r unigolion a'r teuluoedd sut fyddent nhw'n hoffi cael eu portreadu.

Ffynhonnell y llun, Ceridwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth Bennett, o Wrecsam

Yn achos Jonathan ac Elizabeth - sy'n rhan o gyfres lle mae gwrthrychau yn rhan o'r darlun er mwyn symbylu'r cyflwr - mae blodau marw ac oriawr yn y lluniau i gyfleu amser yn dod i ben.

Yn ôl Ceridwen Hughes: "Yn y prosiect yma roedden ni eisiau i bobl weld prydferthwch y bobl sydd yn y lluniau, ond i bobl fod yn chwilfrydig i wybod mwy.

"Ar yr olwg gyntaf mae rhywun yn gweld llun o'r person, ond o edrych eto mae rhywun yn gweld pethau eraill ac yn dechrau holi cwestiynau. Y bwriad ydi gwneud i bobl feddwl ar ôl edrych ar y llun a'u gwneud yn chwilfrydig.

"Fe wnaeth Lizzie wir fwynhau'r profiad - cael gwneud ei gwallt, cael colur - roedd hi wrth ei bodd. Mae'n braf gallu gwneud rhywbeth tu hwnt i'r arferol."

Ffynhonnell y llun, CERIDWEN HUGHES
Disgrifiad o’r llun,

Maddox, sy'n byw gyda anhwylder geneteg prin sy'n ffurf o Hypophosphotasia

Mae Ceridwen, sy'n dod o'r Wyddgrug, yn cyd-weithio'n agos gydag ysbytai plant Alder Hey a Birmingham.

Mae hi wedi tynnu cyfres o luniau yno er mwyn cyflwyno prydferthwch i leoliad sy'n cael ei ystyried yn anneniadol a di-liw.

Mae'r prosiect Same but Different, sy'n derbyn nawdd gan Gronfa Gymunedol Loteri Cenedlaethol yng Nghymru, hefyd wedi gweithio ar gyfres o luniau gyda phobl ifanc gydag anhawsterau dysgu.

Ffynhonnell y llun, Genetic Alliance
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceridwen Hughes wedi sefydlu'r prosiect ers 2015

Maen nhw hefyd yn datblygu prosiect i dynnu lluniau pobl ddigartref a grwpiau eraill sy'n gallu bod ar ymylon cymdeithas er enghraifft yr henoed a phobl gyda phroblemau iechyd meddwl.

Ac mae'r prosiect gwreiddiol - portreadau o blant gyda chyflyrau iechyd prin - yn parhau i ddenu pobl ar draws Prydain sy'n awyddus i fod yn rhan ohono.

Ffynhonnell y llun, CERIDWEN HUGHES
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jake yn byw yn Wrecsam ac mae ganddo Syndrom Angelman. Yn ol ei fam Helen: "Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig bod pobl yn deall cyflyrau prin yn well. Dwi’n credu bydd pobl yn cael eu derbyn yn well os oes mwy o ymwybyddiaeth."

Meddai Ceridwen: "Mae'r teuluoedd yn awyddus iawn i gymryd rhan oherwydd ar ddiwedd y dydd, maen nhw wedi arfer treulio eu bywyd yn ail-adrodd yr un pethau - beth ydi'r cyflwr, sut mae'n effeithio rhywun.

"Ond o wneud hyn mae'n rhoi'r cyfle iddyn nhw ddweud eu stori a stori eu plentyn, a hefyd maen nhw yn gallu bod yn llais i bobl eraill efo cyflyrau tebyg."

Hefyd o ddiddordeb: