'Refferendwm arall' medd y Prif Weinidog Mark Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod y risg o gael prif weinidog Ceidwadol sydd o blaid Brexit caled yn rheswm dros gefnogi refferendwm newydd

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud y dylid cael refferendwm arall cyn i Brydain adael yr UE.

Daw ei sylwadau wedi canlyniadau etholiadau Ewrop lle enillodd Plaid Brexit Nigel Farage ddwy sedd yng Nghymru a nhw oedd ar y brig mewn 19 o'r 22 awdurdod lleol.

Daeth Plaid Cymru yn ail ledled Cymru gan wthio Llafur am y tro cyntaf erioed i'r trydydd safle.

Dywedodd Mr Drakeford fod y risg o gael prif weinidog Ceidwadol sydd o blaid Brexit caled yn rheswm dros gefnogi refferendwm newydd.

Ychwanegodd ei fod am amlinellu safbwynt Llafur Cymru wedi pwysau ychwanegol gan yr aelodau cynulliad a seneddol yn dilyn cyhoeddi canlyniadau etholiadau Ewrop.

Dywedodd: "Er canlyniad y refferendwm yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi anrhydeddu y canlyniad gan ddadlau o blaid creu Brexit a fyddai'n diogelu ein swyddi a'n economi.

"Mae'n cyfeillion yn San Steffan wedi gwneud yr un fath wrth drafod gyda llywodraeth y DU.

"Mae etholiad ar gyfer arweinydd Ceidwadol newydd yn newid hynna i gyd. Bellach mae yna beryg gwirioneddol o fynd allan o'r UE heb gytundeb.

"O ystyried hynny, mae Llafur Cymru yn credu mai'r cyhoedd a ddylai fod â'r penderfyniad terfynol a hynny mewn refferendwm.

"Ac mewn pleidlais o'r fath byddai Llywodraeth Llafur Cymru yn ymgyrchu i Gymru aros yn yr UE.

"Byddwn yn gweithio gydag eraill sy'n dymuno cael yr un canlyniad."

'Rhy hwyr'

Mae sylwadau Mr Drakeford yn adleisio galwadau tebyg gan aelodau Llafur blaenllaw yn San Steffan gan gynnwys y dirprwy arweinydd Tom Watson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er hynny, mae arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi gwrthod y syniad o refferendwm arall - er gwaethaf y galwadau cynyddol gan ei blaid i wneud hynny.

Ond yn ôl cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru Alun Davies mae datganiad Mark Drakeford yn "rhy hwyr" tra bod AS De Caerdydd a Phenarth wedi cefnogi y prif weinidog gan ddweud: "Mae e'n dweud ei bod yn hanfodol i Gymru aros yn yr UE."

Yn gynharach dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price ei bod yn ganlyniad "hanesyddol" i'r blaid, a bod Cymru "unwaith eto yn wlad sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd".

Roedd Mr Price yn cyfeirio at y ffaith fod pleidiau sydd o blaid refferendwm arall wedi ennill mwy o bleidleisiau na'r rheiny sydd o blaid Brexit caled.

Ychwanegodd: "Petai etholiad cyffredinol brys, mi fydd Brexit yn fater canolog a bydd rhaid i ni baratoi yn effeithiol gyda'n gilydd."