Diwrnod 2: Morgannwg v. Sussex
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg yn brwydro nôl yn eu hail fatiad wedi i Sussex sicrhau mantais fawr yn y batiad cyntaf yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Hove.
Dechreuodd y tîm cartref yn ail ddiwrnod ar 208 am 5 wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 186.
Fe lwyddon nhw i ychwanegu 212 am y bum wiced olaf hefyd i gyrraedd cyfanswm o 420 - mantais fawr o 234.
Ond dechreuodd Morgannwg frwydro nôl yn eu hail fatiad er iddyn nhw golli wiced Charlie Hemphrey cyn sgorio o gwbl.
Daeth partneriaeth dda wedyn rhwng Nick Selman (45 h.f.a.) a'r ardderchog Marnus Labuschagne (77 h.f.a.), ac erbyn i'r chwarae ddod i ben ddydd Mawrth roedden nhw wedi cyrraedd sgôr o 137 am un wiced.
Mae Sussex yn dal 97 rhediad ar y blaen, ond os fydd Morgannwg yn medru ychwanegu'n sylweddol at eu cyfanswm ddydd Mercher, mae modd o hyd i osgoi colli yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor hwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019