Lerpwl v Spurs: Y chwaraewyr o Gymru
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Sadwrn, 1 Mehefin, bydd Lerpwl a Tottenham Hotspur yn wynebu ei gilydd ym Madrid yn y gêm bêl-droed mwyaf yn y byd tu allan i gystadlaethau rhyngwladol, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.
Cymro oedd seren y rownd derfynol y llynedd wrth i Gareth Bale sgorio ddwywaith i Real Madrid mewn buddugoliaeth 3-1 yn erbyn Lerpwl yn Kiev.
Mae yna lawer o Gymry wedi chwarae dros glybiau Lerpwl a Spurs dros y blynyddoedd, dyma ddetholiad o rai ohonynt.
Lerpwl
Maurice Parry oedd y Cymro cyntaf i chwarae dros Lerpwl, a hynny yn 1900. Chwaraeodd dros 200 o gemau dros dîm Anfield cyn mynd 'mlaen i chwarae dros Partick Thistle yn 1909. Wedi iddo ymddeol o chwarae fe hyfforddodd Parry ledled Ewrop - Barcelona yn 1924 ac yna Eintracht Frankfurt a FC Koln yn Yr Almaen.
Cyn chwarae i Lerpwl fe roedd Richard "Dickie" Morris yng Nghyffinwyr De Cymru (South Wales Borders Infantry Regiment) yn yr Ail Ryfel y Boer yn Ne Affrica (1899-1902). O'r Drenewydd y daw Dickie Morris, ac aeth ymlaen i chwarae dros Leeds City a Grimsby, ymysg timau eraill. Cafodd 11 o gapiau dros Gymru.
Daeth George Latham o'r Drenewydd hefyd, ac fel Dickie Morris aeth i ymladd yn Ne Affrica. Roedd y ddau yn chwarae pêl-droed gyda'i gilydd tra yn y fyddin ac roedd y ddau yn gyd-chwaraewyr yn Lerpwl efo'i gilydd.
Chwaraeodd Latham i Southport Central a Stoke cyn mynd 'mlaen i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf lle gafodd y Groes Filwrol am ei ddewrder. Wedi'r rhyfel fe chwaraeodd rywfaint dros Gaerdydd, ac ef oedd rheolwr Tîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Antwerp, 1920.
Roedd Ray Lambert o Fagillt yn seren ifanc gyda Lerpwl, ond yn 1939, ac yntau'n 17 oed cafodd ei yrfa ei ohirio am chwe blynedd oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Chwaraeodd 341 o gemau dros y cochion cyn iddo ymddeol yn 1956.
Yn debyg iawn, cafodd dyddiau chwarae gorau Cyril Sidlow o Fae Colwyn ei ddifetha oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Ond roedd yn amddiffynnwr cadarn a chwaraeodd dros Lerpwl hyd nes 1951.
John Toshack
Roedd Toshack yn rhan o dîm eiconig Lerpwl o'r 1970au gan chwarae bron i 250 o gemau dros y clwb rhwng 1970 ac 1978.
Ffurfiodd Toshack bartneriaeth effeithiol gyda Kevin Keegan ac enillodd lawer o dlysau, gan gynnwys Pencampwriaeth Lloegr tair gwaith, Cwpan FA Lloegr, Cwpan UEFA ddwywaith a Super Cup UEFA.
Ian Rush
Chwaraeodd Ian Rush dros Lerpwl rhwng 1980 ac 1996, gydag un tymor (1987-88) gyda Juventus yn Yr Eidal. Rush yw prif sgoriwr hanes clwb Lerpwl, gan rwydo 346 gwaith mewn 660 gêm.
Enillodd Rush 73 cap dros Gymru gan sgorio 28 gwaith, a oedd yn record cenedlaethol nes i Gareth Bale ei thorri mewn gêm yn erbyn China ym mis Mawrth 2018.
Joey Jones
Efallai mai gyda chlwb Wrecsam y mae Joey Jones yn cael ei gysylltu rhan amlaf gan Gymry, gan chwarae dros y clwb dair gwaith yn ei yrfa. Ond roedd yr amddiffynnwr gyda Lerpwl am bedwar tymor hefyd, o 1975 i 1978.
Yn ystod ei bedair blynedd yn Anfield enillodd Jones Gwpan Ewrop ddwywaith, yn 1977 ac 1978.
Dean Saunders
Yn 1991-92 dau Gymro oedd yn arwain yr ymosod i Lerpwl pan ymunodd Dean Saunders ag Ian Rush yn Anfield.
Hwn oedd tymor cyntaf llawn Greame Souness ac fe sgoriodd Saunders 23 gôl wrth i Lerpwl ennill Cwpan yr FA am y pumed tro yn eu hanes.
Craig Bellamy
Cafodd Craig Bellamy ddau dymor gyda Lerpwl (2006-07 ac 2011-12). Enillodd y Community Shield yn 2006 a Chwpan y Gynghrair yn 2012.
Cafodd 78 cap dros Gymru gan rwydo 19 gwaith. Gorffennodd ei yrfa yn 2014 gyda chlwb ei ddinas enedigol, Caerdydd.
Joe Allen
Ymunodd Joe Allen â Lerpwl o Abertawe yn 2012 ac roedd yno am bedair blynedd. Symudodd 'mlaen i Stoke City yn 2016 wedi haf hynod lwyddiannus gyda thîm Cymru yn Euro 2016.
Harry Wilson
Mae'r asgellwr o Gorwen wedi bod ar fenthyg gyda Derby County y tymor yma, ond mae ei ddoniau gyda'i droed chwith wedi dwyn sylw rheolwr Lerpwl, Jurgen Klopp, yn ogystal â thimau o gynghreiriau mawr Ewrop.
Ben Woodburn
Prin iawn ydy'r cyfleoedd wedi bod i 'r chwaraewr 19 oed gyda Lerpwl hyd yma, yn rhannol oherwydd yr opsiynau ymosodol arbennig sydd gan y garfan. Ond mae wedi cael 10 cap dros Gymru, gan sgorio dwy gôl.
Tottenham Hotspur
Roedd Ted Hughes gyda Tottenham o 1899 i 1908 ac roedd yn rhan o'r tîm enillodd Cwpan yr FA yn 1901. O Riwabon yn wreiddiol fe enillodd Hughes 14 cap dros ei wlad.
Chwaraeodd Eugene "Taffy" O'Callaghan dros Spurs rhwng 1924 a 1935 ac mae wedi ei enwi yn Hall of fame y clwb. Ymunodd mwy o Gymry a'r clwb tra oedd O'Callaghan yno- Tom Evans o'r Rhondda, yr asgellwr Willie Davies, yr ymosodwr Willie Evans a'r amddiffynnwr o Bill Whatley.
Ron Burgess
Chwaraeodd Burgess 324 o weithiau dros Tottenham rhwng 1938 ac 1954, ac enillodd yr Adran Gyntaf gyda Spurs yn 1951. Cafodd 32 cap dros Gymru, gan sgorio unwaith.
Terry Medwin
Roedd Medwin yn chwarae dros ei dref enedigol, Abertawe, nes i Spurs dalu £25,000 amdano - a oedd yn lot o arian yn 1956.
Chwaraeodd dros Gymru yng Nghwpan y Byd yn 1958, ac ef oedd y Cymro diwethaf i sgorio gôl yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol nes i Gareth Bale sgorio yn erbyn Slovakia yn Euro 2016. Enillodd y dwbl gyda (y gynghrair a Chwpan yr FA) gyda Spurs yn 1961.
Cliff Jones
Mae Cliff Jones yn cael ei gydnabod gan lawer fel un o'r chwaraewyr gorau yn hanes Tottenham Hotspur. Roedd yn asgellwr amryddawn a sgoriodd 159 o goliau dros Spurs rhwng 1958 ac 1968.
Mike England
Chwaraeodd Mike England, o Dreffynnon, dros 300 o weithiau i Spurs rhwng 1966 ac 1975. Gadawodd Gogledd Llundain i chwarae yn yr Unol Daleithiau dros y Seattle Sounders.
Roedd England yn reolwr ar dîm cenedlaethol Cymru o 1980 i 1988.
Terry Yorath
Un arall o reolwyr Cymru a chwaraeodd dros Spurs oedd Terry Yorath. Dim ond am ddau dymor yr oedd Yorath gyda Spurs, o 1979 i 1981. Cafodd 59 o gapiau a dwy gôl i Gymru.
Roedd yn reolwr ar Gymru rhwng 1988 a 1993, gyda Chymru'n dod o fewn trwch trawst i gyrraedd Cwpan y Byd 1994 dan ei arweinyddiaeth.
Pat Van den Hauwe
Yn dilyn pum tymor llwyddiannus gyda Everton symudodd Pat Van den Hauwe i Tottenham am bedair blynedd (1989-1993).
Roedd Van den Hauwe, a oedd o Wlad Belg yn wreiddiol, yn cael ei adnabod fel 'Psycho Pat' gan gefnogwyr tra roedd yn chwarae. Cafodd 13 cap dros Gymru rhwng 1985 ac 1989.
Simon Davies
Roedd Simon Davies o Hwlffordd yn chwarae dros Spurs rhwng 2000 a 2005.
Mae'r asgellwr chwim efallai'n cael ei gofio mwy na dim yng Nghymru am ei gôl yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal yn 2002. Cafodd 58 o gapiau dros ei wlad, gan sgorio chwe gwaith.
Chris Gunter
Chris Gunter sydd â'r nifer mwyaf o gapiau yn hanes pêl-droed Cymru, 94.
Roedd gyda Spurs am ddau dymor, ond gan nad oedd yn gallu cael lle rheolaidd yn y tîm aeth ar fenthyg i Nottingham Forrest yn 2008, cyn symud yno yn barhaol y flwyddyn ganlynol. Mae'n chwarae gyda Reading ers 2012.
Gareth Bale
Gareth Bale yw un o'r chwaraewyr enwocaf yn y byd, ac ar hyn o bryd mae'n chwarae dros Real Madrid. Roedd gyda Tottenham o 2007 i 2013, gan ennill gwobr chwaraewr gorau'r tymor gan y PFA yn 2012 a 2013.
Bale sydd wedi sgorio'r mwyaf o goliau dros dîm rhyngwladol Cymru (31), ac mae wedi ennill 75 cap hyd yma.
Ben Davies
Ben Davies oedd un o sêr Cymru yn Euro 2016 ac mae bellach yn rhan allweddol o garfan Ryan Giggs. Chwaraeodd y bachgen o Gastell-nedd am ddau dymor gydag Abertawe cyn symud i Tottenham yn 2012, lle mae'n parhau i fod yn aelod pwysig o'r garfan.
Gallwch glywed mwy am y cyffro cyn y gêm fawr ym Madrid ar raglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru.
Bydd Radio Cymru hefyd yn darlledu yn fyw o Bar Bach, Caernarfon, yn ystod y gêm gyda chefnogwyr y ddau dîm - mae croeso i chi ymuno â nhw!