Brennig Davies yn cipio Coron Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Brennig DaviesFfynhonnell y llun, S4C

Enillydd Coron Eisteddfod Caerdydd a'r Fro 2019 yw Brennig Davies, myfyfyriwr blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Rhydychen lle mae'n astudio Saesneg.

Mae'n dod o Wenfô ym Mro Morgannwg ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.

I'r ysgol honno, yn ôl Brennig, mae'r diolch am ei awydd i geisio am y goron eleni.

Dywedodd: "Fe'm hysbrydolwyd i gystadlu am y Goron eleni oherwydd anogaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, yn enwedig Miss Heledd Lewis."

'Braint enfawr'

Ychwanegodd: "Braint enfawr yw ennill y Goron eleni, yn enwedig gan fy mod yn aelod Tu Allan i Gymru am y tro cyntaf.

"Rwy'n gobeithio dychwelyd i Gymru ar ôl graddio, er mwyn byw ger y môr gyda nifer o gŵn, a pharhau i 'sgwennu yn y Gymraeg ac yn y Saesneg," meddai.

Roedd yn cystadlu eleni o dan y ffug-enw, Fleur De Taf.

Mae'r stori'n ymwneud â dynes yn mabwysiadu llwynog, a'r ffaith ei bod yn gwybod ei fod yn anghywir ac yn ddinistriol, ond heb allu cydnabod hynny nag atal ei hun.

Ffynhonnell y llun, S4C

Dywedodd y beirniaid Guto Dafydd ac Elinor Gwyn bod i'r gwaith "syniad gwreiddiol, campus - dynes yn mabwysiadu llwynog".

"Mae sawl un yn y gystadleuaeth wedi ceisio darlunio dadfeiliad meddyliol cymeriad, ond neb cystal â hyn.

"Mae Fleur De Taf yn defnyddio barddoniaeth R Williams Parry'n ogleisiol.

"Mae mewn rheolaeth lwyr o'r plot bob amser; ac mae'n creu teimlad o dywyllwch swreal y byddem wrth ein bodd yn darllen mwy ohono," meddai.

'Anodd dewis'

Ychwanegodd y beirniaid fod y gystadleuaeth eleni yn un "wych" ac ei bod hi wedi bod yn "brofiad anodd dewis rhwng Fleur de Taf a Helyg".

"Aethom, yn y diwedd, am awdur sy'n ddigon hyderus ynddo'i hun i beidio â bod angen tân gwyllt geiriol.

"Aethom am un a'n hanesmwythodd. Aethom am aeddfedrwydd a'n gadawodd ni'n ysu am gael darllen mwy," meddai.

Yn ail, roedd Megan Angharad Hunter, Aelwyd Dyffryn Nantlle ac yn drydydd Caryl Bryn Hughes, Aelwyd JMJ.

Cyflwynir Coron Eisteddfod Caerdydd a'r Fro 2019 eleni gan un o Lywyddion Anrhydeddus yr Ŵyl Gaenor Mai Jones o ardal Pontypridd.