Mared Roberts yn cipio Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Mared Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae drama Mared Roberts yn un "hyderus, cyfredol a pherthnasol iawn" yn ôl y beirniaid

Mared Roberts o Bentre'r Bryn, ger Cei Newydd yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2019 gyda drama o'r enw Sgidie, Sgidie, Sgidie.

Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mae'n gweithio fel cyfieithydd gyda'r Gwasanaeth Iechyd.

Mae'r ddrama yn sôn am ddigartrefedd yn y brifddinas ac yn ôl y beirniaid Branwen Davies a Mared Swain, mae'r ddrama yn un "hyderus, cyfredol a pherthnasol iawn".

Mae Mared eisoes wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd ac mae wedi ennill coron ddwywaith yn olynol yn Eisteddfod Ryng-golegol Cymru.

Fel rhan o'r ail wobr y llynedd, cafodd gyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn Nhŷ Newydd ac mae'n dweud iddi elwa'n fawr o'r profiad o gael arweiniad gan lenorion profiadol.

'Diolch i Taid'

Dywedodd Mared: "Hoffwn ddiolch o waelod calon i Elin Williams, fy athrawes Gymraeg, am ei hanogaeth barhaus.

"Hoffwn ddiolch yn arbennig i Taid, Gruffudd Roberts, sydd wedi bod yn ddylanwad mawr wrth gynnau fy niddordeb mewn trin geiriau," meddai.

Ychwanegodd y beirniaid: "Mae ysgrifennu drama yn fwy na rhywbeth llenyddol ac mae theatr yn fwy na opera sebon ar lwyfan!

"Mae posibiliadau theatr yn ddiddiwedd ac roeddem yn gyffrous i weld beth oedd wedi sbarduno'r dramodwyr ifanc i ysgrifennu ar gyfer y cyfrwng arbennig yma."

Bydd Mared nawr yn cael cyfle i dreulio amser yng nghwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn datblygu ei gwaith a derbyn hyfforddiant pellach gyda BBC Cymru.

Bydd cyfle hefyd i ddatblygu ei syniadau gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant yn ogystal â threulio amser gydag S4C i dderbyn cyflwyniad i ysgrifennu ar gyfer y teledu.