Gobaith teulu am driniaeth alergedd all 'newid bywydau'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen sydd ag alergedd difrifol i gnau yn dweud y byddai triniaeth imiwnotherapi yn "newid ein bywydau'n llwyr."
Oherwydd difrifoldeb alergedd Bradleigh Valentine, bydd y tro cyntaf i'w fam, Lisa, ei wylio yn bwyta darn o gneuen fwnci yn gam enfawr iddi.
Mae teulu'r bachgen chwech oed o Wrecsam yn gobeithio gallu cymryd rhan mewn prawf imiwnotherapi newydd all leihau difrifoldeb ei alergedd, gan ddefnyddio dosau bychain iawn o gnau mwnci wedi eu berwi.
I Bradleigh a'i deulu, fe allai'r driniaeth newid eu bywydau, ond mae Ms Valentine yn cyfaddef ei fod yn "risg".
Dyw nifer o'r pethau sy'n gyffrous ac arferol i blant, fel partïon pen-blwydd a gwyliau, ddim yn arferion syml i Bradleigh.
Wrth ystyried y perygl o'i mab yn cyffwrdd unrhyw gynnyrch sydd â chnau ynddo, mae Ms Valentine yn ofalus. Fe allai bwyta neu gyffwrdd cneuen achosi sioc anaffylactig.
"'Da ni methu jest mynd a bwyta yn y fan hyn neu fan draw, da ni methu g'neud hynny a wnewn ni byth 'neud hynny," meddai.
"'Da ni ddim yn mynd ar ein gwyliau. Awn ni ddim ar awyren achos 'da ni ddim am ei roi o mewn peryg."
'Newid popeth'
Ond mae'r teulu'n gobeithio y gallai'r prawf imiwnotherapi newid popeth.
"Os y buasa'n gweithio, dydw i ddim yn meddwl y baswn i'n prynu bag o gnau iddo fo, ond dydw i ddim yn meddwl y bydde rhaid i ni boeni am y 'may contain', fydde'n golygu y gallwn ni fynd i'r archfarchnad a rhoi petha' i mewn," meddai Ms Valentine.
Mae gan rhwng 2-4% o blant yn y DU alergedd i gnau mwnci yn ôl ffigyrau diweddar.
Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o therapïau alergedd cnau yn defnyddio ychydig iawn o flawd cnau mwnci, ond gan fod hynny'n ddrud, mae'n bosib na fydd ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd.
Mae ymchwilwyr yn Imperial College yn Llundain yn gobeithio gallai defnyddio cnau wedi eu berwi fod yn opsiwn rhatach a mwy diogel o drin yr alergedd.
"Ni'n ceisio chwilio am ffyrdd rhatach o gynnig y driniaeth yma yn ddiogel fyddai hefyd yn fforddiadwy yng nghyd-destun y Gwasanaeth Iechyd," meddai Dr Paul Turner, Alergydd Pediatryddol ac imiwnolegydd yn ysbyty St Mary's Llundain, sy'n gyfrifol am yr ymchwil.
'Llwyddiannus iawn'
Yn dilyn y prawf cyntaf, roedd pob un wnaeth gwblhau blwyddyn o'r therapi cnau wedi berwi yn gallu bwyta chwech i wyth o gnau mwnci heb ddioddef symptomau sylweddol.
"Ro'dd yn llwyddiannus iawn ac mae hynny wedi arwain at yr ail ddarn o waith ymchwil," meddai Dr Turner, wnaeth ddatblygu'r syniad wrth weithio dramor.
"Fe wnes i hyfforddi allan yn Awstralia ac fe wnaeth cwpl o fy nghydweithwyr i sylweddoli bod gan rai plant o dde ddwyrain Asia alergedd i peanut butter, sy'n cael ei greu drwy rostio'r gneuen, ond nid i gawl cnau.
"Fe ddechreuon ni feddwl, be sy'n digwydd i gnau pan chi'n eu berwi nhw sy'n eu gwneud nhw'n llai alergol i rai pobl?"
Mae berwi'r cnau yn lleihau faint o brotein sydd yn y gneuen - sef yr hyn sy'n achosi i'r system imiwnedd ymateb.
Fel rhan o'r math newydd yma o imiwnotherapi, mae cleifion yn cael dosau bach o gnau mwnci dros gyfnod o amser.
'Risg'
Er bod y profion yn cael eu cynnal dan amgylchiadau diogel gan ymchwilwyr a meddygon wedi eu hyfforddi, mae Ms Valentine dan yn pryderu am effaith rhoi cnau i Bradleigh.
"Mae'n risg dydi? Bob tro, bob yn ail wythnos, mae'n cael ychydig mwy - neu efallai'r tro cyntaf - fe allai gael sioc anaffylactig," meddai.
"Gymaint 'da chi'n meddwl ei fod o mewn lle diogel lle allai'r ysbyty ei achub... beth os nad ydyn nhw'n gallu?
"Chi'n poeni fel mam, chi yn mynd i boeni am y math yna o beth, felly mae yna risg. Ond fe allai hyn newid ei fywyd."
Er mwyn cymryd rhan, fe fydd rhaid i Ms Valentine deithio gyda Bradleigh o Wrecsam i Ysbyty St Mary's yn Llundain bob yn ail wythnos ac aros dros nos.
Er gwaetha'r gost, mae'r teulu wedi penderfynu "darganfod ffordd o'i wneud o, beth bynnag mae'n gymryd."
Mae ffrindiau a theulu wedi bod yn helpu i godi arian hefyd.
Mae elusen Anaphylaxis Campaign yn croesawu'r math yma o driniaeth.
Dywedodd y prif weithredwr, Lynne Regent: "Os ydy pobl yn cael eu heffeithio gan alergeddau bwyd, ar hyn o bryd, yr unig lwybr ydi osgoi a chario meddyginiaeth."
Mae'r ymchwilwyr yn Imperial College yn mynnu na ddylai rhieni geisio cynnal y driniaeth ar blant eu hunain.
Ond maen nhw'n gobeithio y gallai profion eu hunain arwain at ddatblygu triniaeth gost-effeithiol a diogel fydd ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd, er mwyn trawsnewid bywydau miloedd o blant a phobl ifanc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd23 Mai 2019