Arestio dau wedi 'ffrwgwd' y tu allan i fosg yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
CanolfanFfynhonnell y llun, Yusuf Khan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ganolfan Dar Ul Isra yn Cathays

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod dau ddyn, 18 a 19 oed, wedi cael eu harestio wedi "ffrwgwd" y tu allan i fosg yng Nghaerdydd.

Dywedodd un person oedd yn addoli yn y mosg ar y pryd ei fod wedi clywed bod dau ddyn wedi ceisio dod mewn i'r mosg gyda chyllyll.

Fe gafodd yr heddlu eu galw toc cyn 01:30 fore Sul i ganolfan gymunedol Dar Ul Isra.

Mae'r llu wedi cadarnhau nad oes cysylltiad rhwng y digwyddiad y tu allan i'r mosg a'r achos o lofruddiaeth mewn ardal gyfagos.

Mae'r ddau ddyn sydd wedi cael eu harestio yn y ddalfa tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau ac fe ddywed yr heddlu nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mewn datganiad ar gyfrif trydar ddydd Sul nodwyd bod y mosg yn parhau i fod ar agor ac y byddai'r gweddïau yn parhau i ddigwydd.

Nodwyd y byddai swyddogion diogelwch yn cadw golwg ar y lle ac roedd yna gais i'r cyhoedd "beidio dyfalu beth oedd wedi digwydd na lledu gwybodaeth nad oedd wedi'i chadarnhau".