Heddlu'n ymchwilio wedi i ddyn farw ar ôl cael ei drywanu
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal y tu ôl i orsaf drenau Cathays
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth ar ôl i ddyn gael ei drywanu yng Nghaerdydd yn oriau mân fore Sul.
Fe gafodd swyddogion eu galw i ardal y tu ôl i orsaf drenau Cathays ychydig cyn 00:30 yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi'i drywanu.
Bu farw'r dyn, sydd heb gael ei adnabod yn ffurfiol eto, yn Ysbyty Athrofaol Cymru o ganlyniad i'w anafiadau.
Mae dau ddyn 18 ac 19 oed o Gaerdydd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maen nhw wedi eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd Anna Hughes ei bod yn "sioc enfawr" o glywed fod dyn wedi'i lofruddio yn ardal Cathays
Mae swyddogion yn apelio am unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Rich Jones: "Rydym yn ymwybodol fod sawl person yn yr ardal ger undeb y myfyrwyr yn Park Place ac ar Ffordd Corbett ger tafarn y Woodville.
"Rydym yn gobeithio y gall y bobl hynny ein cynorthwyo wrth i ni ymchwilio i'r llofruddiaeth yma."

Bu rhannau o Cathays ar gau ddydd Sul