Arestio dyn wedi digwyddiad yn Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
![Vale Road](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7C60/production/_107204813_mosque.jpg)
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod wedi digwyddiad mewn mosg yn Y Rhyl.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'r adeilad ar Ffordd y Dyffryn am 23:20 nos Sadwrn.
Mae'r dyn hefyd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni trosedd gwaethygedig ar sail hil.
Mae e'n cael ei gadw yn y ddalfa.