Mark Drakeford: 'Dylid parchu swydd yr Arglywydd'

  • Cyhoeddwyd
Melania Trump, y Frenhines, Donald TrumpFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Frenhines groesawu Melania a Donald Trump i Balas Buckingham ddydd Llun

Wrth i'r Frenhines groesawu Arlywydd Trump i Balas Buckingham, mae Mark Drakeford wedi datgan y dylai parchu swydd Arlywydd yr Unol Daleithiau pwy bynnag yw'r unigolyn sy'n y rôl.

Eglurodd Mr Drakeford ei fod yn aml yn gweld sylwadau Mr Trump fel rhai "annymunol".

Serch hynny, dywedodd ei bod hi'n bwysig "gwahaniaethau rhwng y swydd a'r unigolyn".

Bydd Donald Trump a'i wraig Melania ar ymweliad gwladol â'r Deyrnas Unedig am dridiau.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford bod "unigolion yn y swydd yn mynd a dod, ond mae'r swydd yn parhau"

"Mae swydd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn un bwysig iawn, a dylai gael ei thrin gyda pharch," meddai Mr Drakeford.

Mae ymweliad Mr Trump, sydd wedi ennyn cryn-wrthwynebiad ymysg y cyhoedd a gwleidyddion.

Ychwanegodd Mr Drakeford bod "unigolion yn y swydd yn mynd a dod, ond mae'r swydd yn parhau".

"Yn aml, rwy'n gweld barn deilydd presennol y swydd yn annymunol iawn, ond dyw hynny ddim yn golygu na ddylai'r swydd gael ei thrin â pharch, gan ei bod hi'n cynrychioli democratiaeth yr Unol Daleithiau a'i lle yn y byd," meddai.

"Dyw hynny ddim yn golygu bod yn rhaid i chi gytuno â barn y person sy'n digwydd dal y swydd ar y pryd."

'Iaith bryfoclyd'

Yn fuan wedi glanio, cyhoeddodd Mr Trump neges Twitter oedd yn feirniadol am faer Llundain, Sadiq Khan, gan ddweud ei fod wedi gwneud gwaith "ofnadwy".

Mae Mr Khan eisoes wedi beirniadu'r arlywydd, gan gymharu ei ieithwedd i'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio gan "ffasgwyr".

Wrth ymateb i'r honiadau, dywedodd Mr Drakeford: "Rydw i'n credu bod yr arlywydd yma yn crwydro'n aml i ddefnyddio iaith sy'n bryfoclyd, sy'n cydymdeimlo â gwerthoedd sydd yn bell o'r rhai mae Llywodraeth Cymru yn eu dal."

Bydd Arlywydd Trump yn y DU rhwng 3-5 o Fehefin, ddyddiau cyn i Theresa May ymddiswyddo fel prif weinidog y DU ar 7 Mehefin.