Cynghorydd wedi cymharu AC i 'Putin, Johnson a Trump'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd arbenigol newydd yn Llywodraeth Cymru wedi cymharu cyn-aelod o'r cabinet i Donald Trump, Vladimir Putin a Boris Johnson.
Fe wnaeth Paul Griffiths hefyd honni fod argymhellion gan weinidogion i gryfhau llywodraeth leol yn cael eu "llywio" gan "ffeithiau amgen".
Mae Mr Griffiths bellach yn cynghori'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James AC.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw ei farn yn cynrychioli barn y llywodraeth bryd hynny, na chwaith heddiw.
'Ffeithiau amgen'
Mae Mr Griffiths, a oedd yn gynghorydd Llafur rhwng 2011-2017, wedi ail-ymuno â'r llywodraeth ar ôl gweithio fel cynghorydd i'r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan.
Mewn cyfres o flogiau yn 2018 mae Paul Griffiths yn hynod feirniadol o bolisi Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol a'r gweinidog oedd yn gyfrifol ar y pryd, Alun Davies AC.
Dan y pennawd "Ffeithiau amgen Putin, Johnson, Trump ac Alun Davies o Lywodraeth Cymru", ysgrifennodd Mr Griffiths:
"Dywedodd Putin nad oedd ganddo filwyr yn yr Wcráin.
"Dywedodd Trump nad yw'r hinsawdd yn newid.
"Mae Johnson yn dweud bydd Brexit yn arwain at £350m yn ychwanegol i'r GIG.
"Mae hyn i gyd yn wahanol i'r ffeithiau sydd wedi eu profi.
"Mae Alun Davies o Lywodraeth Cymru yn dweud bod awdurdodau lleol Cymru angen poblogaeth o 300,000 ar gyfartaledd er mwyn cwrdd â heriau cyfoes.
"Does dim tystiolaeth ffeithiol i gefnogi hyn gan Alun Davies. Mae'n ffaith amgen."
Ym mis Mawrth 2018 fe wnaeth Llywodraeth Cymru osod y camau nesaf o ran ad-drefnu llywodraeth leol. Roedd yr argymhellion yn cynnwys cyfuno gwirfoddol a chyfuno gorfodol.
Mewn blog yn fuan wedyn, dan y pennawd "Ffeithiau Amgen Llywodraeth Cymru", dywedodd Paul Griffiths:
"Mae Llywodraeth Cymru yn argymell, unwaith eto, i dynnu'r gair lleol allan o lywodraeth leol.
"Maen nhw'n dadlau fod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi methu â derbyn y sialens gafodd ei gynnig gan y cyn-weinidog, Mark Drakeford i roi cynlluniau pellach mewn lle i gydweithio.
"Mae'r dystiolaeth yn gwbl wahanol i'r honiad yma.
"Un o'r ffeithiau amgen yma y dylwn obeithio peidio gweld mewn Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru."
Blog arall
Fe ysgrifennodd mewn blog arall ym mis Ebrill bod "ffeithiau amgen unwaith eto yn cael eu defnyddio i gyfiawnhau'r hyn nad oes modd ei gyfiawnhau".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd y rhain yn sylwadau gan unigolyn preifat a dydyn nhw ddim yn cynrychioli barn Llywodraeth Cymru bryd hynny na chwaith heddiw.
"Fel cynghorydd arbenigol dros dro, roedd Paul Griffiths yn cynghori ar sawl peth - cyngor oedd yn neu ddim yn dylanwadu ar benderfyniadau gweinidogion."
Ymateb y pleidiau
Mae Plaid Cymru wedi dweud ei bod hi'n "swrreal fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyflogi rhywun mor feirniadol o'u polisïau llywodraeth leol fel eu hymgynghorydd arbennig dros lywodraeth leol".
"Gobeithio bydd Paul Griffiths yn llwyddo i ddarbwyllo ei benaethiaid o fanteision Cymru annibynnol - yn ogystal â gwendidau eu polisïau ar ariannu llywodraeth leol."
Dywedodd Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'n amlwg fod gan y cynghorydd arbennig safbwyntiau cryf am berfformiad gwarthus Llywodraeth Cymru o ran llywodraethu'n lleol yng Nghymru, ac nid yw'n anghywir gyda sawl peth mae'n ei ddweud.
"Efallai bod penodiad Mr Griffiths yn arwydd o fwriad Llywodraeth Cymru i wneud yn iawn am ei berthynas greithiog gyda llywodraethau lleol yn dilyn cyfnod gwarthus y cyn-weinidog wrth y llyw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019