Ryan Giggs yn rhoi pwyslais ar ieuenctid gyda Chymru

  • Cyhoeddwyd
Ryan Giggs a Tyler RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tyler Roberts yn un o 12 chwaraewr sydd wedi ennill eu capiau cyntaf ers i Ryan Giggs gymryd yr awenau

Un o'r rhesymau pam gafodd Syr Alex Ferguson cymaint o lwyddiant fel rheolwr Manchester United yn ystod ei 26 mlynedd wrth y llyw oedd am ei fod wedi bod yn barod i roi cyfle i chwaraewyr ifanc.

Roedd David Beckham, Nicky Butt, Paul Scholes, y brodyr Neville, Jonny Evans a Darren Fletcher i gyd yn rhan o "Fergie's Fledglings".

Un arall oedd Ryan Giggs - chwaraewr mwyaf llwyddiannus yn hanes y gamp ar ôl iddo ennill 34 o dlysau mewn 22 tymor.

Mae Giggs bellach wedi bod yn rheolwr ar Gymru ers blwyddyn a hanner, ac mae dylanwad Ferguson i'w weld yn glir.

Yn ei 11 gêm wrth y llyw mae o wedi rhoi cap cyntaf i 12 o chwaraewyr, ac roedd chwech o'r rheiny yn 21 oed neu iau ar y pryd.

Golwg wahanol i'r garfan

Mae 'na olwg wahanol i'r garfan y dyddiau hyn o'i gymharu â'r un gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016 gyda Chris Coleman wrth y llyw.

Dydy chwaraewyr fel Ashley Williams, Chris Gunter, Neil Taylor a Sam Vokes ddim yn ddewisiadau cyntaf, tra bod Hal Robson-Kanu, James Collins, David Vaughan a David Edwards wedi ymddeol.

Mae angen i Joe Ledley ac Andy King ddod o hyd i glybiau newydd hefyd os am unrhyw obaith o adennill eu llefydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer oedd yn chwaraewyr allweddol yn Euro 2016 bellach allan o'r tîm cyntaf

Yn y cyfamser mae chwaraewyr fel David Brooks, Daniel James, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Matt Smith, Rabbi Matondo, Ben Woodburn, Harry Wilson a Tyler Roberts wedi datblygu'n aelodau rheolaidd o'r tîm a'r garfan, a mwyaf sydyn mae 'na opsiynau di-ri ar gael i Giggs.

Dwi'n gwybod nad oedd pob cefnogwr yn hapus gyda phenodiad Giggs, ond dwi'n siŵr fod pawb bellach yn gallu gwerthfawrogi'r gwaith mae wedi'i wneud yn rhoi cyfleoedd i chwaraewyr ifanc, a chreu ychydig o ddyfnder.

Yn amlwg fe fyddan nhw yn gweld eisiau Aaron Ramsey, ond maen nhw wedi profi eu bod yn gallu ymdopi hebddo erbyn hyn.

Capiau cyntaf Giggs

  • Chris Mepham - China, 22/03/18

  • Connor Roberts - Uruguay, 26/03/18

  • Billy Bodin - Uruguay, 26/03/18

  • George Thomas - Mecsico, 28/05/18

  • Matt Smith - Mecsico - 28/05/18

  • Tyler Roberts - Gweriniaeth Iwerddon, 06/09/18

  • Keiron Freeman - Albania, 20/11/18

  • James Lawrence - Albania, 20/11/18

  • Daniel James - Albania, 20/11/18

  • Rabbi Matondo - Albania, 20/11/18

  • Will Vaulks - Trinidad a Tobago, 20/03/19

  • Adam Davies - Trinidad a Tobago, 20/03/19

Croatia a Hwngari

Mae Cymru wedi cael dechrau da i'r ymgyrch ragbrofol bresennol, yn curo Slofacia 1-0 ym mis Mawrth.

Ond am her sy'n eu hwynebu yn Osijek brynhawn Sadwrn.

Mae Croatia yn y pumed safle ar restr detholion y byd ar ôl cyrraedd rownd derfynol Cwpan Y Byd y llynedd, cyn colli yn erbyn Ffrainc.

Yn Luka Modric, mae ganddyn nhw un o chwaraewyr canol cae gorau'r byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth tîm Luka Modric golli eu gêm ddiwethaf yn erbyn Hwngari

Ar ôl dweud hynny, fe fyddan nhw heb chwaraewr canol cae Barcelona, Ivan Rakitić ac ymosodwr Frankfurt, Ante Rebić oherwydd anafiadau.

Heb anghofio chwaith eu bod wedi colli yn erbyn Hwngari yn eu gêm ragbrofol ddiwethaf.

Mae'r canlyniad yna yn Budapest wedi profi fod y grŵp am fod yn un agored a chystadleuol.

Dwi ddim yn meddwl y bydd yr un wlad yn ennill y grŵp yn hawdd, a dwi'n rhagweld tipyn o frwydr rhwng Cymru, Croatia, Hwngari a Slofacia i orffen yn y ddau safle uchaf.

Byddai pedwar pwynt o'r ddwy gêm nesaf yn rhoi Cymru mewn safle gwych yn y grŵp ar ôl tair gêm.

Ac er na fydd hi'n hawdd yn Osijek na Budapest, mae 'na ddigon o dalent yn y garfan bresennol i gael canlyniadau da yn y ddwy gêm.