Achos ffermwr y Gogarth: Stormydd yn 'sialens wahanol'
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr sydd wedi'i gyhuddo o droseddau'n ymwneud ag esgeuluso anifeiliaid wedi dweud wrth y llys bod gofalu am anifeiliaid yn ystod stormydd yn sialens "dra gwahanol".
Cafodd Daniel Jones, 40 oed o Langristiolus ar Ynys Môn, ei ddewis o 2,500 o ymgeiswyr i redeg Fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno yn 2016.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Llandudno i wynebu 11 cyhuddiad - rhai yn ymwneud â throseddau honedig yn fuan wedi iddo symud i'r fferm.
Mae Mr Jones yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Clywodd y llys bod Mr Jones wedi wynebu tywydd anffafriol yn ystod gaeaf 2017 - gan gynnwys stormydd ac eira trwm.
"Roedd yna sawl storm. Yn ystod mis Ionawr [2018] fe wnaeth saith storm daro'r Gogarth," meddai.
"Doedd y defaid ddim yn hapus. Fe wnaethon nhw sylweddoli bod mwy o wair ar gael mewn llefydd fel caeau criced felly roedden nhw'n crwydro lawr i'r dre' fin nos."
Ychwanegodd bod y tywydd drwg yn "gyson" a'i bod hi'n aeaf "caled ofnadwy".
Cafodd Mr Jones ei ddewis gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i redeg y fferm 145 erw gwerth £1m, a hynny wrth dalu £1 y flwyddyn mewn rhent.
Roedd ei gefndir amaethyddol yn ymwneud â ffermio ar dir isel yn Ynys Môn.
Clywodd y llys bod ffermio ar y Gogarth yn wahanol iawn i'r hyn yr oedd wedi arfer ag ef: "Mae'r tywydd yn gallu bod yn ofnadwy... mae'n eithaf peryglus ar adegau."
"Mae hi'n wirioneddol galed oherwydd y creigiau gan fod y defaid yn mynd yn sownd.
"Dwi wedi gorfod cyflogi dringwyr i achub rhai ohonynt, tra bod rhai eraill wedi disgyn i'r môr."
'Cymaint yn mynd ymlaen'
Mae Mr Jones yn wynebu cyhuddiad o fethu â chael gwared ar gyrff tri o ddefaid, methu â chadw cofnod o symudiadau anifeiliaid a naw cyhuddiad o beidio â rhoi gwybod i'r awdurdodau am anifeiliaid dan ei ofal.
Mewn cyfweliad, dywedodd wrth yr awdurdodau ei fod yn clirio'r cyrff unwaith yr oedd yn ymwybodol ohonynt: "Dwi'm yn gwybod sut nes i fethu nhw, roedd gen i gymaint o bethau'n mynd ymlaen."
Ychwanegodd bod 15 o ddefaid wedi marw o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019