Ben Davies ar gael i wynebu Croatia a Hwngari
- Cyhoeddwyd
Mae amddiffynnwr Cymru a Tottenham Hotspur, Ben Davies ar gael i chwarae yn y gemau yn erbyn Croatia a Hwngari.
Daeth cadarnhad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru bod llawdriniaeth y chwaraewr 26 oed wedi ei ohirio unwaith eto.
Doedd Davies ddim yn rhan o garfan wreiddiol Ryan Giggs oherwydd anaf, gyda'i glwb yn dweud y byddai angen llawdriniaeth yn syth ar ôl rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ar 1 Mehefin.
Fe dreuliodd y Cymro'r gêm honno ar y fainc, wrth i Lerpwl drechu Spurs 2-0.
Yna, yna gynharach yr wythnos hon, daeth y newyddion y byddai Davies ar gael i ymuno â'r garfan, ond y byddai ond ar gael ar gyfer y gyntaf o'r ddwy gêm.
Mae ei lawdriniaeth nawr wedi ei ohirio ymhellach, ac fe fydd ar gael i'r ddwy.
Mwy o newyddion da
Roedd mwy o newyddion da i Gymru mewn cynhadledd newyddion fore Gwener.
Cadarnhaodd y rheolwr Ryan Giggs y byddai Dan James ar gael i wynebu Croatia wedi iddo gwblhau prawf meddygol gyda chlwb Manchester United.
Mae disgwyl cadarnhad o drosglwyddiad James i Old Trafford o glwb Abertawe yn fuan.
Ychwanegodd fod Ethan Ampadu wedi gwella o anaf i'w gefn, ac y bydd e hefyd ar gael ar gyfer y gemau pwysig.
Bydd Cymru'n wynebu Croatia yn Osijek ddydd Sadwrn, cyn mynd ymlaen i herio Hwngari ar 11 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019