Llofruddiaeth Cathays: Tri yn y llys
- Cyhoeddwyd

Bu farw Fahad Mohamed Nur ar ôl cael ei drywanu 21 o weithiau
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dyn 18 oed yng Nghaerdydd.
Mae Abdulghalil Aldobhani, 22, a Shafique Shaddad, 24 - y ddau o Gaerdydd - wedi eu cyhuddo o drywanu Fahad Mohamed Nur i farwolaeth.
Cafodd Mr Nur ei drywanu 21 o weithiau ger gorsaf drenau Cathays yn y brifddinas yn oriau mân ddydd Sul diwethaf.
Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Cafodd y ddau ddyn eu cadw yn y ddalfa, a byddan nhw'n ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Bydd Aseel Arar, 34 oed o Birmingham, hefyd yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gynorthwyo Mr Aldobhani.
Mae'r heddlu yn parhau i holi dyn 21 oed o Gaerdydd mewn cysylltiad â'r digwyddiad.