Creu Banc Cambria i lenwi'r bwlch yng nghymunedau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gobaith Tegid Roberts o Fanc Cambria ydy cynnig gwasanaethau ar y stryd fawr

Mae banc cymunedol yn cael ei sefydlu yng Nghymru wrth i nifer o fanciau gau canghennau ar draws y wlad.

Mae Banc Cambria yn cael ei ddatblygu gan grŵp Banc Cyhoeddus i Gymru, a bydd yn gweithredu fel banc arferol, ond yn berchen i aelodau.

Daw wrth i gannoedd o ganghennau gau yn sgil cwymp mewn defnydd a thwf bancio ar-lein.

Ond mae undebau credyd yn rhybuddio y gallai'r banc cymunedol ddyblygu eu gwaith nhw o gynnig gwasanaethau i'r rhai sydd ddim yn defnyddio gwasanaethau bancio arferol.

'Banc yn eiddo i bobl Cymru'

Mae'r Cynulliad yn dweud bod dros 200 o fanciau wedi cau yng Nghymru ers 2008.

Ddydd Gwener, caeodd y banc olaf yn Llanymddyfri - y diweddaraf mewn cyfres o drefi sydd bellach heb fanc o gwbl.

Disgrifiad o’r llun,

Mewn sawl tref yng Nghymru, fel Castellnewydd Emlyn, does dim un banc yn agored bellach

Mae cyfarwyddwr Banc Cambria am i'r cwmni lenwi'r bwlch sydd wedi ei adael gan fanciau'r stryd fawr.

"Byddai'n fanc arferol," meddai Mark Hooper.

"Ond y gwahaniaeth mawr ydy y bydd yn eiddo i bobl Cymru. Y bobl yna sydd eisiau cyfrannu, byddan nhw'n rhan ohono."

Cymraeg a Saesneg

Dywedodd y bydd gan Fanc Cambria drwydded briodol: "Bydd modd cael cyfrif cyfredol, bydd busnesau'n gallu cael cyfrifon, bydd morgeisi ar gael er mwyn i bobl brynu tai.

"Byddwn ni hefyd yn sicrhau bod presenoldeb ar-lein gwych. Mae pobl yn hoff o ddefnyddio apiau, a sicrhau eu bod yn gallu bancio yn hawdd."

Ychwanegodd: "Bydd yn Gymraeg a Saesneg. Bydd hwn yn fanc i Gymru gyfan felly bydd yr un mor bwysig i'r gogledd orllewin a'r de ddwyrain."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Hooper yn dweud bod Cymru'n "dioddef o golli'r banciau ar y stryd fawr"

Ychwanegodd Mr Hooper y byddai'n gyfnod cyn i'r canghennau cyntaf agor gan fod "angen gwneud yn siŵr bod pethau'n cael eu gwneud yn iawn".

"Ond rydyn ni hefyd yn gwybod mai nawr ydy'r amser. Mae Cymru'n dioddef o golli'r banciau ar y stryd fawr."

Mae'r banc yn edrych am gyllid ar hyn o bryd, a'r gobaith ydy y bydd Llywodraeth Cymru'n fodlon cefnogi.

Roedd sefydlu banc cymunedol yn un o addewidion y prif weinidog wrth ymgeisio am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2018.

Cystadlu ag undebau credyd?

Ond mae undebau credyd yn rhybuddio am yr effaith posib arnyn nhw o agor banc cymunedol newydd.

Dywedodd Cymdeithas yr Undebau Credyd Prydeinig bod angen ystyried cydweithio â banc cymunedol yng Nghymru.

"Gallai banc cymunedol sy'n cynnig cynilion a benthyciadau ddyblygu gwaith a bod mewn cystadleuaeth ag undebau credyd.

"Felly er ein bod yn deall yr angen... dydyn ni ddim yn sicr mai'r ateb ydy banc newydd."

Mae Banc Cambria wedi dweud y byddai'n cydweithio ag undebau credyd yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod mewn trafodaethau gyda grŵp Banc Cyhoeddus i Gymru, ac y gallai gymryd "o leiaf ddwy flynedd i sicrhau trwydded bancio".

Ychwanegodd llefarydd ei fod yn "faes pwysig" i'r llywodraeth, ac y byddai'n "cefnogi'r datblygiad lle bo hynny'n bosib".