Gollwng achos yn erbyn ffermwr y Gogarth
- Cyhoeddwyd
Mae Llys Ynadon Llandudno wedi gollwng yr achos yn erbyn y ffermwr Daniel Jones.
Roedd Mr Jones yn gwadu 11 cyhuddiad yn ymwneud a'i reolaeth o fferm y Parc ar y Gogarth yn Llandudno.
Brynhawn Gwener, ar bedwerydd diwrnod yr achos, fe ddywedodd yr erlyniad nad oedden nhw yn bwriadu parhau â'r achos.
Dywedodd y barnwr Gwyn Jones wrth Mr Jones: "Mae eich enw da yn parhau."
Y tu allan i'r llys dywedodd cyfreithiwr Daniel Jones ei fod yn siomedig iawn bod Cyngor Conwy wedi bwrw 'mlaen â'r erlyniad yn y lle cyntaf.
Ar ran yr amddiffyniad dywedodd y cyfreithiwr David Kirwan: "Rydw i'n siomedig iawn ag agwedd y cyngor. Does neb wedi ymddiheuro. Bu bron iddyn nhw ddinistrio dyn gonest ac uchel ei barch."
Roedd y cyhuddiadau yn ymwneud â throseddau honedig o fethu a chael gwared â chyrff nifer o ddefaid, a methu â chadw cofnodion priodol o'r anifeiliaid ar y fferm.
Cafodd Mr Jones ei ddewis i ofalu am y fferm 145 erw yn 2016 yn dilyn cystadleuaeth a ddenodd 2,500 o ymgeiswyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019