Cwyn Plaid Brexit am 'annhegwch' Llywydd y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Brexit yn y Cynulliad wedi honni bod Llywydd y Cynulliad yn trin ei blaid yn annheg yn y Senedd.
Yn ôl Mark Reckless, mae Elin Jones yn trin ei blaid yn wahanol i'r pleidiau eraill ac mae'n "anghywir" ei bod yn aelod o blaid wleidyddol.
Mae'r ddau wedi anghytuno ynglŷn â'r amser a ganiateir i ACau o Blaid Brexit i holi gweinidogion y llywodraeth.
Yn ôl y Cynulliad, mae Ms Jones, sy'n AC Plaid Cymru, yn ddiduedd ac yn ymddwyn yn unol â rheolau'r sefydliad.
Sefydlwyd grŵp Plaid Brexit ym mis Mai yn ystod yr ymgyrch ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd.
Daeth cwynion gan ACau Plaid Cymru, a rhai aelodau Llafur, a oedd yn hawlio nad oedd gan y grŵp hawl ddemocrataidd i gael eu cydnabod gan nad oedden nhw wedi cael eu hethol dan faner Plaid Brexit.
Rhoddwyd caniatâd i'r grŵp gael ei sefydlu gan Ms Jones, a methiant oedd yr ymdrech gan y gwrthwynebwyr i atal y grŵp rhag cael statws swyddogol.
Mae swyddogaethau Llywydd y Cynulliad yn debyg i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, yn goruchwylio busnes a thrafodion aelodau etholedig.
Ond yn wahanol i Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, mae Llywyddion y Cynulliad wedi parhau i fod yn aelodau o bleidiau gwleidyddol.
Ddydd Mercher diwethaf, mewn gwrthdaro yn y Senedd, fe wnaeth Mr Reckless feirniadu'r Llywydd am "leihau'r" nifer o gwestiynau sy'n cael eu caniatáu i lefarwyr y pleidiau.
Yn ôl Mr Reckless roedd ei blaid yn cael "chwarter" y cwestiynau roedd pleidiau eraill yn cael gofyn.
Dywedodd Mr Reckless wrth Ms Jones: "Llywydd, oni fydd pobl yn meddwl bod gennych chi dueddiadau o blaid y sefydliad sydd o blaid aros (yn yr UE)."
Y Llywydd yn 'ddiduedd'
Mewn ymateb dywedodd y Llywydd bod Plaid Brexit wedi cael yr un nifer o gwestiynau â'r hyn gafodd y grŵp UKIP yn ddiweddar, ac roedd hyn yn adlewyrchu "cydbwysedd cyffredinol".
Dywedodd Ms Jones: "Mae angen i mi ddweud wrthoch chi y gallaf alw eich aelodau os ydyn nhw yn gwneud cais i ofyn cwestiynau, ac er mwyn y cofnod, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau gan Blaid Brexit heddiw."
Mewn ymateb dywedodd Mr Reckless: "Dywedoch chi nad oedden ni'n cael gwneud hynny."
Mewn cyfweliad ar raglen BBC Sunday Politics Wales dywedodd nad oedd ei blaid "yn cael eu trin yn deg".
Hawliodd fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu trin yr un fath â'r pleidiau eraill pan oedden nhw'n grŵp o bump.
"Cafodd cwestiynau UKIP eu cwtogi pan aethon nhw lawr i grŵp o dri. Ni'n fwy na hynny," meddai.
"Rwy'n meddwl ei fod yn anghywir bod y Llywydd yn aelod o Blaid Cymru, mae'n parhau i fod yn aelod o grŵp Plaid Cymru.
"Mae llawer o bethau yn well yn y Cynulliad nag yn San Steffan, ond un peth rwy'n meddwl sydd yn well yn San Steffan yw'r syniad bod y llefarydd yn niwtral ac yn gadael eu plaid."
Dywedodd llefarydd y Cynulliad: "Mae penderfyniadau am gwestiynau arweinwyr a llefarwyr yn fater i'r Llywydd sydd yn ymddwyn yn ddiduedd ar bob adeg, yn unol â rheolau'r Cynulliad."
Sunday Politics Wales, BBC One Wales, 1200
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2019