Gemau Rhagbrofol Euro 2020: Croatia 2-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ivan PerisicFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ivan Perišić yn rhwydo ail gôl y tîm cartref

Bu'n rhaid i dîm Ryan Giggs dalu'n ddrud am eu camgymeriadau wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Croatia brynhawn Sadwrn.

Wrth i'r tymheredd godi uwchben 30C gradd yn Stadion Gradski, roedd profiad y tîm cartref yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth - er i Gymru orffen yn gryf.

Croatia - yn chwarae yn eu crysau tywyll - aeth ar y blaen.

Fe sgoriodd James Lawrence gôl i'w rwyd ei hun ar ôl 17 munud ar ôl pas dreiddgar Luka Modric a chroesiad Ivan Perišić.

Roedd y ddau yna'n ddraenen yn ystlys Cymru drwy gydol y gêm - a Perišić sgoriodd yr ail yn fuan wedi'r egwyl wedi dryswch yn amddiffyn yr ymwelwyr.

Disgrifiad,

Ben Davies: 'Mae'n rhaid i ni wneud mwy'

Er gwaetha'r gwres llethol yn Osijek, fe lwyddodd Cymru i frwydro'n ôl.

Fe wyrodd ergyd yr eilydd David Brooks oddi ar yr amddiffynnwr ac i gefn y rhwyd gyda llai na chwarter awr yn weddill i wneud y sgôr yn 2-1.

Fe allai Cymru fod wedi cipio pwynt tua'r diwedd ond fe orffennodd y gêm yn 2-1.

Bydd Cymru nawr yn teithio i Budapest cyn wynebu Hwngari nos Fawrth.