Yr Athro Noel Lloyd wedi marw yn 72 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r Athro Noel Lloyd wedi marw yn 72 oed.
Bu'n is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth o 2004 tan ei ymddeoliad yn 2011.
Ym mis Mehefin 2010 derbyniodd yr Athro Lloyd, a oedd yn enedigol o Lanelli, y CBE am ei wasanaeth i addysg uwch yng Nghymru.
Cyn ei benodi'n is-ganghellor, bu hefyd yn gofrestrydd, ysgrifennydd, Deon y Gwyddorau a phennaeth yr Adran Fathemateg yn y brifysgol.
Graddiodd mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt, lle y cwblhaodd ei ddoethuriaeth ac yna bu'n Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan.
'Cristion gloyw'
Wrth ei gofio, dywedodd dirprwy ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones wrth Cymru Fyw: "Mae colli Noel Lloyd yn golled enfawr.
"Roedd yn ysgolhaig disglair, yn Athro Mathemateg a ddaeth maes o law yn is-ganghellor Aberystwyth.
"Gwelais â'm llygad fy hun y parch oedd iddo, nid yn unig ar sail ei ysgolheictod ond ar sail ei bersonoliaeth hawddgar, ei degwch naturiol a'i ddiffuantrwydd.
"Ond yn bennaf oll byddwn yn ei gofio fel Cristion gloyw a roddodd oes o wasanaeth i'w gapel, ei enwad ac i nifer o achosion crefyddol a dyngarol yn lleol ac yn genedlaethol."
Bu'r Athro Lloyd yn Ysgrifennydd Capel y Morfa, Aberystwyth o 1989 tan 2004 ac ar hyn o bryd ef oedd cadeirydd pwyllgor y blaenoriaid.
'Cyfraniad aruthrol'
Mae hefyd wedi gwasanaethu fel cadeirydd Bwrdd Yr Eglwys a Chymdeithas Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Bu'r Athro Lloyd yn un o aelodau annibynnol y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, y 'Comisiwn Silk' - a gyflwynodd ei adroddiadau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2012 ac yn 2014.
Bu hefyd yn Gomisiynydd Penodiadau Barnwrol.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Gyda thristwch mawr y clywsom y newyddion am farwolaeth yr Athro Noel Lloyd, cyn is-ganghellor a chofrestrydd ein prifysgol.
"Gwnaeth yr Athro Lloyd gyfraniad aruthrol i addysg uwch, nid yn unig fel ein is-ganghellor am saith mlynedd, ond hefyd fel Mathemategydd o fri.
"Roedd yn ŵr hynod egwyddorol, deallus, trugarog a diflino ei gyfraniad, ac mae'n gadael bwlch mawr ar ei ôl. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei wraig Dilys a'i deulu."
Mae'n gadael gweddw, Dilys, dau o blant, Carys a Hywel, a dwy wyres.