'Angen dysgu am derfysgoedd hil 1919 mewn ysgolion'

  • Cyhoeddwyd
Lluniau o'r bobl gafodd eu harestio am eu rhan yn y terfysg yn ne Cymru yn 1919Ffynhonnell y llun, Archifdy Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau o'r bobl gafodd eu harestio am eu rhan yn y terfysg yn ne Cymru yn 1919

Mae galwadau ar ysgolion i ddysgu am hanes y terfysgoedd hil a ddigwyddodd ganrif yn ôl.

Bu farw tri o bobl a chafodd cannoedd eu hanafu yn y terfysgoedd yng Nghaerdydd a'r Barri ond nid oes cofeb na phlac yn bodoli.

Mae cofnodion hanesyddol hefyd yn brin iawn.

Dywedodd Madeline Heneghan, a gyd-ysgrifennodd lyfr am y digwyddiadau, fod "gwersi pwysig" i'w dysgu yn yr hyn a ddigwyddodd.

Dywedodd yr ymchwilydd Jamie Baker nad oedd pobl yn gwybod fawr ddim am y digwyddiadau oherwydd eu bod yn "staen cywilyddus" ar hanes.

"Mae yna deimlad o dristwch ymysg pobl ddu o Gaerdydd, does neb yn siarad llawer am y peth," meddai.

"Mae'n staen ar hanes, ychydig yn anniben, yn embaras. Does dim llawer o wybodaeth, mae'n rhaid i chi gloddio."

'Gwersi gwerthfawr heddiw'

Bu farw John Donovan, 33, a Mohammed Abdullah, 21, yng Nghaerdydd, tra bu farw Frederick Henry Longman ar ôl cael ei drywanu yn Y Barri.

Dywedodd Ms Heneghan: "Rwy'n credu y dylid ei [addysgu mewn ysgolion] ar draws y DU, ond yn enwedig yn yr ardaloedd porthladd lle ddigwyddodd hyn.

"Mae'n ymwneud yn rhannol â gwybod hanes y lle, ac nid hanes pobl ddu yn unig yw hwn ond hanes yr ymerodraeth.

Ffynhonnell y llun, Aiden Pollitt
Disgrifiad o’r llun,

Madeline Heneghan, a gyd-ysgrifennodd lyfr am y digwyddiadau y Mhrydain

"Mae gwersi pwysig i ni heddiw, gwersi gwerthfawr i bobl ifanc," ychwanegodd.

Cafodd y terfysg yn 1919 ei ysgogi gan ddiffyg tai, swyddi a chyfleoedd.

Ychwanegodd Mr Baker fod sylw yn y wasg yng Nghaerdydd ar y pryd yn rhoi'r bai ar ddynion du am ddechrau'r trais.

Mae National Theatre Wales a'r Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol yn cynnal digwyddiadau am y cyfnod yng Nghanolfan Gymunedol Trebiwt ar 12 a 13 Mehefin.