Fan yn taro dau gerddwr tu allan i glwb nos yn y Rhondda
- Cyhoeddwyd

Heddlu ar Heol Llewellyn, Pentre yn dilyn y digwyddiad
Mae dau berson wedi cael eu hanafu'n ddifrifol ar ôl cael eu taro gan fan y tu allan i glwb nos yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 01:35 fore Sul i Heol Llewellyn ym Mhentre.
Dywedodd yr heddlu fod Citroen Berlingo gwyn wedi gwrthdaro â dau ddyn 25 oed y tu allan i glwb nos The Banc.
Cafodd dyn 30 oed ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ac achosi niwed difrifol drwy yrru'n beryglus.
Cafodd dau berson arall eu cludo i'r ysbyty hefyd, ond does dim gwybodaeth am eu cyflwr hyd yma.
Mae'r ffordd - a oedd ar gau am oriau - bellach wedi ailagor.
Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad.