Gyr o wartheg yn anafu dynes yng Nghapel Curig
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yng Nghapel Curig
Mae dynes wedi cael ei chludo i'r ysbyty wedi iddi gael ei hanafu gan gyr o wartheg.
Dywed y Gwasanaeth Ambiwlans iddynt gael eu galw i'r digwyddiad yng Nghapel Curig toc wedi 12:00 brynhawn Sul.
Fe wnaeth yr ambiwlans awyr a thîm achub Dyffryn Ogwen gynorthwyo gyda'r gwaith.
Aed â'r ddynes mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Stoke.
Does dim gwybodaeth am ddifrifoldeb ei hanafiadau.