Gwrthdrawiad Treuddyn: Dyn yn ei 80au mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn ei 80au wedi cael anafiadau difrifol sy'n bygwth ei fywyd mewn gwrthdrawiad ger Treuddyn, Sir y Fflint, lle cafodd chwech o bobl eraill hefyd eu hanafu, rhai yn ddifrifol.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth i'r gwrthdrawiad rhwng fan Ford wen a Volvo S40 du ar yr A5104 tua 17:40 brynhawn Llun.
Cafodd gyrrwr y fan ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Prifysgol Stoke gydag anafiadau difrifol sy'n bygwth ei fywyd.
Fe gafodd teithiwr yn y fan ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam. Credir bod ganddo fan anafiadau.
Apêl am wybodaeth
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod gyrrwr y Volvo, dynes yn ei 20au, wedi ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam ac yna ei throsglwyddo i ysbyty yn Stoke "gydag anafiadau difrifol fydd yn newid ei bywyd".
Aethpwyd â phedwar o deithwyr eraill y Volvo i'r ysbyty - tri i Stoke, ac un i Wrecsam gydag anafiadau difrifol.
Dywedodd y Sarjant Jason Diamond o Uned Plismona Priffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn parhau i apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam i gysylltu â ni."
Fe wnaeth llefarydd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru gadarnhau bod tri hofrennydd wedi eu galw i ddigwyddiad yn ardal Yr Wyddgrug.
"Yn dilyn triniaeth gan ein staff arbenigol oedd ar fwrdd yr ambiwlans awyr fe gafodd tri o'r cleifion eu cludo i Ysbyty Prifysgol Stoke," meddai'r llefarydd.
Fe wnaeth ffordd yr A5104 ailagor tua 23:00.