Gemau Rhagbrofol Euro 2020: Hwngari 1-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi colli oddi cartref am yr eildro yn olynol yng ngemau rhagbrofol Euro 2020.
Er i'r tîm berfformio'n well nag yn y golled yn erbyn Croatia ddydd Sadwrn, fe gollwyd nifer o gyfleoedd i guro Hwngari yn Budapest nos Fawrth.
Gareth Bale gafodd cyfle gorau Cymru ond fe fethodd â sgorio gôl hawdd gydag ond y golwr i'w guro.
Roedd yna bum newid i'r tîm a ddechreuodd yn erbyn Croatia, gydag Ashley Williams yn dychwelyd fel capten.
Wedi i Slovakia ddringo i frig Grŵp E trwy guro Azerbaijan 5-1 yn Baku yn gynharach ddydd Mawrth, roedd Cymru wedi llithrio i'r pedwerydd safle a Hwngari yn ail cyn y gic gyntaf yn Arena Groupama.
Doedd dim llawer i wahaniaethu'r ddau dîm yn ystod hanner cyntaf a ddiweddodd yn ddi-sgôr.
Er i Hwngari - a'u capten, Balazs Dzsudzsak yn arbennig - greu mwy o gyfleoedd o'u meddiant o'r bêl yr hanner eu gwrthwynebwyr, Cymru gafodd yr unig ergydion uniongyrchol tua'r gôl - y ddau ymdrech gan Tom Lawrence.
Fe wnaeth cyflymdra Dan James hefyd achosi problemau i'r tîm cartref.
Cymru gafodd y gorau o ddechrau'r ail hanner ond daeth Hwngari'n agos at sgorio wedi i ergyd nerthol Dominik Szoboszlai o ymyl y cwrt cosbi fynd fodfeddi'n unig dros y postyn.
Wedi awr o chwarae, fe greuodd Lawrence gyfle gwych i Bale wedi rhediad carlamus i lawr yr asgell dde, ond roedd ergyd Bale yn un wan ac fe laniodd y bêl ym mreichiau'r golwr Peter Gulacsi.
Gyda'r tîm cartref yn dechrau edrych yn llai peryglus, a chyffyrddiadau campus gan Joe Allen, roedd yna obaith gwirioneddol am gyfnod y byddai Cymru'n sicrhau o leiaf bwynt oddi cartref.
Ond yna roedd yna dro ar fyd ac roedd angen amddiffyn arwrol gan Allen i glirio'r bêl o'r llinell.
Ac wedi 81 o funudau fe sgoriodd Mate Pátkai i sicrhau'r fuddugoliaeth i Hwngari.
Wedi'r ail golled yn olynol, mae Cymru'n aros ym mhedwerydd safle'r tabl a Hwngari ar y brig gyda thriphwynt o fantais.
Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn Azerbaijan ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2019