Adam Price a Stephen Kinnock yn cyfaddef defnydd cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae sawl gwleidydd wedi cyfaddef defnyddio cyffuriau pan yn ifanc, a hynny wrth ymddangos ar raglen Question Time y BBC.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ac Aelod Seneddol Llafur, Stephen Kinnock, eu bod wedi cymryd cyffuriau.
Fe wnaeth cyn-ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers, hefyd ddweud iddi drio canabis pan yn y brifysgol.
Roedd y panelwyr yn ymateb i gwestiwn yn dilyn cyfaddefiad Michael Gove, sy'n ymgeisio i arwain y Ceidwadwyr, iddo ddefnyddio cocên yn y gorffennol.
'Ddim am ddweud celwydd'
Ar y rhaglen, dywedodd Mr Price: "Fel dyn hoyw oedd yn mynd i glybiau nos yn y 1990au byddai'n ychydig o syndod os nad oeddwn i wedi cymryd cyffuriau.
"Dydw i ddim yn dweud mod i'n falch o hynny, ond dydw i ddim am ddweud celwydd amdano chwaith."
Ychwanegodd bod "15 miliwn o bobl yn y wlad hon wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon" a bod hynny'n arwydd bod "gwaharddiad wedi methu, yn y ffordd fwyaf anobeithiol".
Dywedodd Mr Kinnock, aelod Llafur dros Aberafan, ei fod wedi ei fagu a chael ei addysg yng ngorllewin Llundain, mewn ardal "gymysg iawn, iawn".
"Cyn belled ag oeddwn i'n ei weld roedd tua hanner y rhai yna yn smygu canabis ac roeddwn i'n rhan o'r hanner hynny," meddai.
Ychwanegodd ei fod hefyd yn rhan o'r sîn cerddoriaeth house yn y 1990au.
"Mae'r rhyfel yn erbyn cyffuriau'n cael ei golli... gan achosi niwed difrifol i gymdeithas, torcalon."
Dywedodd cyn-ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Ms Villiers, ei bod wedi defnyddio canabis ar dri achlysur yn y brifysgol, ond ei fod wedi ei gwneud hi'n sâl.
"Felly wnes i ddim ei gyffwrdd eto a buaswn i ddim yn ei argymell i neb arall," meddai.
Er iddi ddweud ei bod hi'n "bragmataidd" tuag at bolisi cyffuriau, nid oedd am gefnogi cyfreithloni canabis oherwydd yr "effeithiau iechyd difrifol iawn".