Apêl wedi i gar daro merch 12 oed yn Sgiwen, Castell-nedd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd AbbeyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Ysgol Gynradd Abbey

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i ferch 12 oed gael ei tharo gan gar.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Ysgol Gynradd Abbey ar Heol Newydd yn Sgiwen am tua 15:30 ddydd Iau.

Cafodd y ferch anafiadau difrifol i'w phen ac mae'n cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd Peugeot 207 aur yn rhan o'r digwyddiad, ac roedd y ffordd ynghau am rai oriau.