Arestio dyn 18 ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Lon-Yr-Efail yn Nhrelái nos Wener
Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio yng Nghaerdydd ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn ardal Lon-Yr-Efail, Trelái tua 20:00 nos Wener, lle bu farw dyn 56 oed.
Mae swyddogion fforensig yn parhau i archwilio'r ardal.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.