Dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa wedi marwolaeth Caerau
- Cyhoeddwyd

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn 56 oed yng Nghaerdydd wedi cael mwy o amser i holi dyn sy'n cael ei amau o fod â chysylltiad â'r farwolaeth.
Bydd y dyn 18 oed sydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn cael ei gadw yn y ddalfa am 32 awr pellach er mwyn rhoi mwy o gyfle i blismyn ei holi.
Cafodd y dyn ei arestio wedi i gorff gael ei ddarganfod yn Lôn-Yr-Efail, Caerau nos Wener am 20:00.
Dywed Heddlu'r De nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall cysylltiedig â'r digwyddiad ac maent yn apelio am fwy o wybodaeth.