Cofnodi rheithfarn naratif yng nghwest marwolaeth Magaluf
- Cyhoeddwyd
Mae'r crwner yn y cwest i farwolaeth dyn 18 oed o Fro Morgannwg ym Magaluf y llynedd wedi dweud bod hi'n "hollol drasig" bod llety gwyliau heb weithredu camau diogelwch syml a allai fod wedi atal y farwolaeth.
Syrthiodd Thomas Channon o'r Rhws 70 troedfedd dros wal isel yng ngwesty Eden Roc yng Ngorffennaf 2018 tra ar wyliau gydag wyth o ffrindiau i ddathlu diwedd eu harholiadau Safon Uwch.
Mr Channon, oedd yn cael ei nabod fel Tom, oedd y trydydd ymwelydd o'r DU i farw yn y safle mewn blwyddyn - bu farw Thomas Hughes, 20 oed ac o Wrecsam, yno fis ynghynt mewn amgylchiadau tebyg.
Gan gofnodi rheithfarn naratif, dywedodd Crwner Pontypridd, Graeme Hughes bod "camau syml [fel] codi ffens heb eu hysgogi gan farwolaeth Thomas Hughes".
"Fe fyddai'r camau hynny, yn ôl pob tebyg, wedi atal marwolaeth Tom [Channon]."
Clywodd y cwest bod pyst metel wedi eu codi ar ben y wal erbyn hyn.
Dywedodd y crwner bod Tom yn debygol o fod yn "feddw a blinedig" wrth ddychwelyd i'r gwesty ond "ddim yn eithriadol o feddw nac afreolus".
Roedd wedi bod yn yfed mewn bar gyda ffrindiau tan yr oriau mân.
Dywedodd y ffrind olaf i'w weld yn fyw, Raied Jones, ei fod wedi siarad ag e tua 04:00 ryw 20 metr o'u gwesty.
Roedd Tom "ychydig yn feddw", meddai. "Gofynnes i a oedd e'n ok ac yn gwybod y ffordd adre a dywedodd e fod e'n iawn."
Dechreuodd y grŵp boeni amdano wrth gyrraedd y gwesty ond roedden nhw'n meddwl ei fod yn ei ystafell gyda chyfaill oedd heb fynd allan gyda'r gweddill.
Wnaethon nhw ddim sylweddoli ei fod ar goll nes rhwng 10:00 ac 11:00 y diwrnod canlynol.
Man peryglus
Gofynnodd mam Tom, Ceri Channon, wrtho a gafodd y grŵp unrhyw gyngor diogelwch wrth gyrraedd neu wybodaeth bod llanc arall wedi syrthio yno.
Atebodd Mr Jones, "Na, dim byd o gwbwl".
Dywedodd adroddiad patholegydd Sbaenaidd bod y fan o le syrthiodd Mr Channon ar lefel y stryd ar un ochor ond yn saith llawr o uchder ar yr ochor arall.
Roedd yr adroddiad yn dod i'r casgliad, meddai'r crwner' "bod y fan yn un peryglus oherwydd y gwahaniaeth mawr ar ddwy ochor i'r wal".
Y gred yw bod Mr Channon wedi marw rhwng 08:00 a 09:00.
Ar ôl adolygu adroddiad yr awtopsi a gafodd ei gynnal yn Majorca, fe gadarnhaodd y patholegydd fforensig o Gaerdydd, Dr Richard Jones, ei fod wedi marw o drawma ar ôl taro'r llawr.
Roedd y lefel alcohol yn ei waed bron â bod ddwywaith y lefel gyfreithiol i yrru.
Dywedodd y crwner na allai gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol oherwydd diffyg tystiolaeth i brofi sut laniodd Mr Channon ar waelod y wal.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018