Angen i Gymru 'feithrin cysylltiadau diplomyddol' ei hun
- Cyhoeddwyd
Fe fyddai sefydlu swyddfeydd consylaidd yng Nghymru yn gwella statws y wlad yn rhyngwladol, yn ôl Aelod Seneddol.
Mae Ben Lake yn galw ar Gymru i "feithrin ei chysylltiadau diplomyddol ei hun" yn sgil y "cyd-destun gwleidyddol cythryblus" sydd ohoni.
Mae'n disgrifio'r swyddfeydd consylaidd yng Nghatalonia, Gwlad y Basg a Quebec fel enghreifftiau i'w hefelychu.
Dywedodd llefarydd o Swyddfa Gymreig Llywodraeth y DU eu bod yn gefnogol o unrhyw fenter sy'n cryfhau cysylltiadau diplomyddol Cymru.
'Y gorau i Gymru'
Wrth gyflwyno'r syniad i ASau eraill, dywedodd Mr Lake y byddai sefydlu swyddfeydd o'r fath yn "dod a'r gorau o'r byd i Gymru".
"Mae aelodaeth yn yr UE wedi rhoi'r cyfle i Gymru wella ei statws drwy sefydliadau fel Senedd Ewrop, Pwyllgor y Rhanbarthau, a swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel," meddai.
"Ond gyda'n perthynas â gweddill Ewrop yn fwy ansicr nag erioed, mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd eraill o gryfhau ein perthnasoedd rhyngwladol."
Dywedodd mai un ffordd o wneud hynny ydy annog mwy o "gynrychiolaeth ddiplomyddol o dramor yng Nghymru".
Daw ei alwad yn dilyn agoriad swyddfa Is-gennad Iwerddon yng Nghaerdydd fis diwethaf, ac mae'n gobeithio y gwnaiff gwledydd eraill ddilyn eu hesiampl.
Gofynnodd: "Sut ydyn ni am adeiladu ar hyn ac annog mwy o wledydd i fuddsoddi yng Nghymru?"
Eglurodd: "Tra bod personél llysgenhadaeth yn newid bob tair i bum mlynedd, mae tymor Is-gennad Anrhydeddus yn hirach ac felly'n gallu cynnig cysondeb."
Roedd Quebec, Gwlad y Basg a Chatalonia ymysg rhai o'i enghreifftiau o genhedloedd neu ranbarthau sydd wedi sefydlu cynrychiolaeth ddiplomyddol effeithiol.
Mae 38 o swyddfeydd conswl yn Barcelona, 42 yn Montreal a saith yn Bilbao.
Dywedodd dirprwy weinidog newydd Swyddfa Cymru, Kevin Foster, bod Llywodraeth y DU yn gefnogol iawn o'r syniad o ddenu cysylltiadau diplomyddol gwell, a bod ei swyddfa'n yn hyrwyddo Cymru drwy gytundebau masnach.
Eglurodd bod allforion Cymru wedi cynyddu, gyda chwmnïau fel Babi Pur yn ffynnu a'i bod hi'n bwysig i fagu cysylltiadau diplomyddol am resymau economaidd a diwylliannol.
"Rydym am i Gymru fod yn rhan o Deyrnas Unedig eangfrydig sydd tu fas i'r UE," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019