Troseddau ffrwydron a gwenwynau: Dyn yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Trimasaran
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dyn ei arestio ar ôl i heddlu arfog gael eu galw i Fferm Baglan ger Trimsaran yr wythnos ddiwethaf

Mae dyn 57 oed o Sir Gaerfyrddin wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o droseddau'n ymwneud â ffrwydron a gwenwynau.

Fe wnaeth Russell Wadge o Drimsaran ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd fore Mercher.

Mae'n wynebu un cyhuddiad dan y Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol a phedwar cyhuddiad yn ymwneud â'r Ddeddf Gwenwynau.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Gorffennaf.