Trimsaran: Cyhuddo dyn, 57, o droseddau ffrwydron a gwenwyn

  • Cyhoeddwyd
ceir argyfwng
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl cerbyd brys eu galw i'r fferm ger Trimsaran

Mae dyn a gafodd ei arestio yn Sir Gaerfyrddin wedi'i gyhuddo o droseddau'n ymwneud â ffrwydron a gwenwynau.

Bydd Russell Wadge o Drimsaran yn ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mercher.

Cafodd dyn ei arestio ar ôl i heddlu arfog gael eu galw i Fferm Baglan ger Trimsaran yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru warant i chwilio cyfeiriad ar ôl dod o hyd i gemegau yn yr adeilad.

Mae'r dyn 57 oed yn cael ei gyhuddo o un achos sy'n mynd yn groes i'r Ddeddf Sylweddau Ffrwydrol a phedwar trosedd sy'n groes i'r Ddeddf Gwenwynau.

Dywedodd yr heddlu nad yw'r sylweddau'n peri risg i'r cyhoedd.