Prif weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar absenoldeb salwch
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr bwrdd iechyd sydd dan fesurau arbennig ar absenoldeb salwch estynedig.
Cafodd gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg eu rhoi dan fesurau arbennig yn dilyn nifer o achosion difrifol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Mae Allison Williams ar "gyfnod estynedig o absenoldeb salwch".
Fe fydd dirprwy brif weithredwr Caerdydd a'r Fro, Dr Sharon Hopkins, yn cymryd ei lle yn y cyfamser.
Daw hyn wedi i Gyngor Rhondda Cynon Taf basio cynnig o ddiffyg hyder yn Ms Williams mewn pleidlais unfrydol nos Fercher.
Cafodd tîm adolygu annibynnol eu galw yn yr hydref y llynedd yn sgil pryderon am farwolaethau nifer o fabis yn y ddau ysbyty.
Roedd yr adolygiad yn nodi bod menywod wedi cael "profiadau gofidus a gofal gwael".
Cynigiodd Ms Williams ymddiheuriad cyhoeddus gan ddweud bod hi'n "flin iawn am y methiannau" a nodwyd.
Ond mae 'na bwysau wedi eu rhoi ar rai o'r uwch swyddogion i ymddiswyddo.
Mae panel annibynnol - dan arweinyddiaeth Mick Giannasi - yn goruchwylio'r gwelliannau.
Dywedodd Athro Marcus Longley, cadeirydd y bwrdd iechyd: "Yn anffodus mae Allison Williams, ein prif weithredwr, ar gyfnod estynedig o absenoldeb oherwydd salwch. Felly mae trefniadau dros dro ar waith."
Cadarnhaodd fod Dr Hopkins, sydd ar hyn o bryd yn gyfarwyddwr trawsnewid gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi cytuno i ymuno â nhw fel y prif weithredwr dros dro o ddydd Llun nesaf.
"Rwy'n falch y bydd rhywun o brofiad GIG Sharon ar lefel uchel iawn yn ymuno â ni'r wythnos nesaf ac rwy'n hyderus y bydd yn darparu arweinyddiaeth gref wrth i ni fynd i'r afael â'r heriau niferus sy'n ein hwynebu nawr," ychwanegodd yr Athro Longley.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Mai 2019