Beirniadu penderfyniad i ddechrau Rali GB Cymru yn Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth Motorsport UK wedi amddiffyn y penderfyniad i ddechrau Rali GB Cymru yn Lerpwl.
Mewn digwyddiad yn y ddinas ddydd Mercher cafodd cynlluniau eu datgelu ar gyfer cymalau'r rali gan gynnwys ei ddechrau ar lannau Afon Merswy a chymal ym mharc Oulton, sydd hefyd dros y ffin.
Dyma'r tro cyntaf i'r rali ddechrau tu allan i Gymru ers 20 mlynedd.
Dywedodd Hugh Chambers, Prif Weithredwr Motorsport UK, mai'r bwriad oedd "cynyddu ymwybyddiaeth am Gymru tu allan i'r wlad".
Fis diwethaf, dywedodd Mr Chambers y gallai Rali GB Cymru symud i Ogledd Iwerddon flwyddyn nesaf - er bod gan Lywodraeth Cymru gytundeb i'w gynnal yma tan 2021.
Rali GB Cymru yw'r deuddegfed rali mewn pencampwriaeth o 14 ras sy'n digwydd drwy gydol y flwyddyn.
Ar draws y byd mae degau o filiynau yn gwylio'r rasys sy'n cael eu darlledu mewn mwy na 155 o wledydd.
'Digon o lefydd'
Mae Shon Rees o Grymych wedi bod yn dilyn ralïo ers blynyddoedd ac yn credu "fod digon o lefydd yng Nghymru" gallai fod wedi cynnal y digwyddiad.
"Rali GB Cymru yw enw'r event," meddai. "Pam ddim dod ag e lawr i Gaerdydd?
"Byddai'r lansiad wedi gallu bod yn y de a'r rali yn y gogledd a byddai hynna wedi bod yn mix bach neis a balans neis i Gymru."
Wrth ymateb dywedodd Mr Chambers "mai eu bwriad oedd denu mwy o bobl i Gymru mewn twristiaeth a budd economaidd".
"Trwy ddechrau'r rali yn Lerpwl rydym yn cynyddu ymwybyddiaeth am Gymru a'r digwyddiad gan obeithio dod â mwy i Gymru," meddai.
Lerpwl yn 'brifddinas i ogledd Cymru'
Ers i Rali GB Cymru symud i'r gogledd yn 2013 mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu bron i £11m at y cynllun.
Cyngor Conwy yw un o brif fuddsoddwyr y digwyddiad, fydd yn teithio ar hyd y glannau yn ogystal â de'r sir.
Yn ôl Goronwy Owen o Gyngor Conwy, bydd "rhan helaeth o'r rali yn Llandudno".
"I ogledd Cymru mae Lerpwl yn brifddinas i lot ohonom ni felly mae o ddigon deniadol a hawdd i gyrraedd," meddai.
"Mae'r adnoddau yma felly does 'na'm costau cau strydoedd, eleni Lerpwl fydd yn cymryd y costau hynny."
Wrth ymateb i sïon fod Motorsport UK yn bwriadu symud y digwyddiad o Gymru i Ogledd Iwerddon dywedodd Hugh Chambers nad oedd dim wedi ei benderfynu eto ac fe gadarnhaodd fod gan Motorsport UK gytundeb am dair blynedd arall gyda'r llywodraeth.
Bydd Rali GB Cymru yn dechrau o Lerpwl ar 3 Hydref ac yn dod i ben yn Llandudno ar 6 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019