Pump i gystadlu yn rownd derfynol Canwr y Byd Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd pum canwr yn cystadlu yn rownd derfynol Prif Wobr Canwr y Byd yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Yn eu plith mae'r tenor Mingjie Lei o China a enillodd Gwobr y Gân BBC Canwr y Byd nos Iau.
Dywedodd Mingjie Lei: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill Gwobr y Gân yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd, Caerdydd. Mae'n anrhydedd i ymuno gyda'r rhestr o enillwyr ac rwyf mor ddiolchgar am gefnogaeth anhygoel y gynulleidfa."
Y pedwar arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw y bas Patrick Guetti o UDA, y bariton Andrei Kymach o Wcráin, y soprano Sooyeon Lee o Dde Korea a'r mezzo-soprano Guadalupe Barrientos o'r Ariannin.
Ymhlith y cantorion eraill a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr y Gân roedd Angharad Lyddon o Gymru.
Bydd hi a'r pedwar arall yn y gystadleuaeth nos Iau yn cael perfformio datganiad yn un o leoliadau mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer caneuon a cherddoriaeth siambr.
Nos Sadwrn bydd y cantorion yn perfformio eu dewisiadau repertoire a bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyfeilio, dan arweiniad Ariane Matiakh ac Ewa Strusińska.
Bydd enillydd y Brif Wobr yn derbyn £20,000, Tlws Caerdydd a theitl BBC Canwr y Byd Caerdydd.
Cyfle i'r cyhoedd bleidleisio
Bydd panel o feirniaid yn gyfrifol am ddyfarnu'r Brif Wobr, a fydd yn cynnwys Cyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru Syr David Pountney (cadeirydd), y cantorion José Cura, y Fonesig Felicity Lott a Federica von Stade, a sylfaenydd Grange Park Opera Surrey, Wasfi Kani.
Bydd Gwobr y Gynulleidfa'r Fonesig Joan Sutherland, drwy bleidlais y cyhoedd a chynulleidfaoedd yng Nghaerdydd, hefyd yn cael ei chyhoeddi yn ystod rownd derfynol y Brif Wobr ddydd Sadwrn.
Mae'r bleidlais yn agored tan 2pm ddydd Sadwrn 22 Mehefin, a gall gwylwyr bleidleisio ar-lein ar wefan BBC Canwr y Byd Caerdydd neu dros y ffôn - mae'r telerau ac amodau i'w gweld ar wefan BBC Canwr y Byd Caerdydd.
Eleni, mae'r wobr yn cael ei chyflwyno er cof am Dmitri Hvorostovsky, y bariton a enillodd cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd yn 1989.
Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei threfnu gan BBC Cymru Wales ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae'n cael cefnogaeth gan Gyngor Caerdydd.
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal am y tro cyntaf yn 1983.
Bydd Heledd Cynwal yn cael cwmni Alwyn Humphreys a Beti George ar gyfer rownd derfynol BBC Canwr y Byd Caerdydd 2019, ar Radio Cymru am 19:00 nos Sadwrn
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2017