Swyddfa Is-gennad Iwerddon yn ailagor yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd parhau â chysylltiadau economaidd cryf â Chymru ar ôl Brexit yn brif amcan swyddfa is-gennad newydd Iwerddon yng Nghymru.
Dyna neges Denise Hanrahan - yr is-gennad fydd yn rheoli'r swyddfa yng Nghaerdydd.
Bydd y swyddfa yn ailagor ar ôl cau yn 2009.
O ran masnachu, mae cyfraniad Iwerddon yn bwysig i Gymru wrth i 85 o gwmnïau Gwyddelig gyflogi tua 5,500 yma, yn ôl Llywodraeth y Weriniaeth.
Dywedodd Ms Hanrahan: "Rydym am i'r berthynas gref yma barhau yn yr hir dymor.
"Nod Iwerddon ydi cael cyfeillgarwch a phartneriaeth eang ac agos gyda'r DU, beth bynnag sy'n digwydd o ran Brexit.
"Ein nod fel swyddfa is-gennad yw meithrin a datblygu y rhan Wyddelig-Gymreig o'r bartneriaeth yna."
Mae gan Lywodraeth Cymru gynrychiolydd llawn amser sydd wedi ei leoli yn Llys Genhadaeth Prydain yn Nulyn.
Dywedodd llefarydd ei bod yn newyddion calonogol gweld swyddfa is-gennad yn agor ym Mae Caerdydd.
Ar ymweliad ag Iwerddon yr wythnos ddiwethaf dywedodd Eluned Mogan, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Cymru, mai'r Weriniaeth oedd un o bartneriaid economaidd pwysicaf Cymru.
"Dyw'r ansicrwydd dros Brexit ddim yn helpu'r sefyllfa, ond rydym wedi gweld cynnydd o 60% yn ein hallforion i Iwerddon, felly dyw'r sefyllfa ddim i gyd yn dywyll" meddai.
"Mae yna ymroddiad rhwng ein llywodraethau i gydweithredu, gymaint â phosib, er mwyn sicrhau bod y berthynas yn parhau beth bynnag fydd yn digwydd o ran Brexit."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019