Bariton o Ukraine yn ennill Canwr y Byd

  • Cyhoeddwyd
Andrei KymachFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrei Kymach bod ei "freuddwyd wedi'i gwireddu"

Y bariton Andrei Kymach, 31 oed, o Ukraine yw enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd 2019.

Yn dilyn y fuddugoliaeth, dywedodd Andrei Kymach: "Mae'n brofiad anhygoel i gael ennill cystadleuaeth Canwr y Byd y BBC eleni.

"Mae'r freuddwyd wedi dod yn fyw. Gallaf gofio gwylio'r gystadleuaeth pan o'n i'n ieuengach a wnaeth e ddim croesi fy meddwl mai fi fyddai'n ennill un diwrnod."

Perfformiodd Kymach ddarnau gan Bizet, Rachmaninov a Donizetti yn y rownd derfynol a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd nos Sadwrn.

Cyflwynodd noddwr y gystadleuaeth, y Fonesig Kiri Te Kanawa, wobr o £20,000 i'r enillydd a Thlws Caerdydd.

Eleni am y tro cyntaf, bydd cyfle i'r enillydd berfformio datganiad yn Neuadd y Frenhines Elizabeth yng Nghanolfan Southbank yn Llundain.

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Y pump yn y rownd derfynol oedd Andrei Kymach, Guadalupe Barrientos, Patrick Guetti, Sooyeon Lee a Mingjie Lei

Roedd dros 400 o gantorion o bob rhan o'r byd wedi gwneud cais i BBC Canwr y Byd Caerdydd 2019, a chafodd 20 canwr o 15 gwlad eu dewis i gystadlu yn y gystadleuaeth.

Y pedwar canwr arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Sooyeon Lee, Mingjie Lei, Guadalupe Barrientos a Patrick Guetti.

Cyflwynwyd Gwobr y Gynulleidfa o £2,500 i Katie Bray o Loegr.

'Ein swyno'n llwyr'

Dywedodd David Jackson, Cyfarwyddwr Artistig BBC Canwr y Byd Caerdydd: "Mae bob un o'r 20 cystadleuydd yn enillwyr am eu bod wedi cyrraedd y rowndiau terfynol ac am eu bod wedi creu cymaint o argraff ar bawb.

"Ond dim ond un all hawlio coron yr enillydd ac mae Andrei Kymach yn gwbl haeddiannol o'r wobr am ein swyno'n llwyr ac am y gallu anhygoel i gysylltu gyda'r gynulleidfa.

"Mae pawb sy'n gysylltiedig gyda'r gystadleuaeth arbennig hon yn edrych ymlaen at ddilyn ei hanes dros y blynyddoedd sydd i ddod."

Nos Iau cyhoeddwyd mai'r tenor Mingjie Lei o China a enillodd Gwobr y Gân.

Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd yn cael ei threfnu gan BBC Cymru ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, ac mae'n cael cefnogaeth gan Gyngor Caerdydd.