Trafnidiaeth Cymru wedi talu £330,000 mewn iawndaliadau

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rhedeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau ers 17 Hydref

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi talu dros £330,000 mewn iawndaliadau i gwsmeriaid ers cymryd rheolaeth o reilffyrdd Cymru a'r Gororau.

Dywedodd y cwmni ei fod yn "gweithio'n galed" i wella'r gwasanaeth a'u bod wedi cyflawni "gwelliannau mawr".

Fe wnaeth cais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion 9 ddatgelu bod dros 17,000 o geisiadau am iawndal wedi'u gwneud i Drafnidiaeth Cymru.

Cafodd dros 16,000 o'r ceisiadau hynny eu cymeradwyo, gyda'r cwmni wedi talu £330,685.32 ers 17 Hydref y llynedd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru, gymrodd yr awenau gan Arriva, bod iawndal yn "addewid i gwsmeriaid".

£800m ar drenau newydd

"Rydyn ni'n dechrau talu iawndal pan fo oedi o 15 munud - rhywbeth doedd Arriva ddim yn ei wneud - ac rydyn ni'n ei dalu'n llawer cynt," meddai'r cyfarwyddwr profiad cwsmeriaid, Colin Lea.

"Mae'r mwyafrif llethol o geisiadau'n cael eu talu o fewn 48 awr."

Fe wnaeth Trenau Arriva Cymru dalu £655,000 mewn iawndaliadau yn 2017/18.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi buddsoddi £800m mewn trenau newydd ac maen nhw'n dweud y bydd 95% o deithiau'n cael eu gwneud ar drenau newydd unwaith y byddan nhw wedi'u hadeiladu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Colin Lea yn cydnabod bod "ffordd i fynd" o ran gwella'r gwasanaeth

Ond mae Mr Lea yn cydnabod bod diffyg llefydd ar rai llwybrau yn parhau'n broblem.

"Rydw i'n teithio o amgylch Cymru yn aml, gan gynnwys ar linellau'r Cymoedd yn y bore," meddai.

"Dros y mwyafrif o Gymru mae gennym ddigon o lefydd, ond mae heriau ar yr oriau brig allweddol yna i mewn i Gaerdydd.

"Rydyn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i wella pethau ac mae ffordd i fynd."