Pennaethiaid Trafnidiaeth Cymru'n wynebu cwestiynau

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ers mis a hanner mae Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg y gwasanaethau trenau

Mae pennaeth y corff sy'n gyfrifol am wasanaeth trenau Cymru wedi wynebu cwestiynau gan ACau ddydd Iau, ddyddiau'n unig wedi i deithwyr gael rhybudd i wynebu rhagor o oedi.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud mai tywydd garw ac oed y trenau sy'n gyfrifol am achosi'r trafferthion ar y rheilffyrdd.

Clywodd Aelodau Cynulliad fod bron i 20 o'u 127 o drenau y cwmwni wedi eu colli mewn un penwythnos oherwydd diffygion i olwynion.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymddiheuro, gan ddweud eu bod yn ceisio "rhannu'r boen" trwy symud trenau o lwybrau tawelach i rai mwy poblogaidd.

Cytundeb Arriva yn 'ofnadwy'

Bu'r prif weithredwr James Price yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor economi'r Cynulliad fore Iau, yn ogystal â chyfarwyddwr arall gyda'r cwmni, Alexia Course.

Mae gweinidogion wedi canmol ymateb Trafnidiaeth Cymru, gan ychwanegu bod diffyg buddsoddiad gan eu rhagflaenydd - Trenau Arriva Cymru - wedi cyfrannu at y trafferthion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae James Price wedi dweud y bydd Trafnidiaeth Cymru yn "trawsnewid" y gwasanaeth

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Economi, Ken Skates wynebu cwestiynau yn y Senedd ddydd Mercher ynglŷn â beth wnaeth Llywodraeth Cymru i baratoi cyn i Drafnidiaeth Cymru gymryd rheolaeth o'r rheilffyrdd ym mis Hydref.

Dywedodd bod 76% o drenau'r cwmni yn rhedeg ar hyn o bryd, a'u bod yn gobeithio cyrraedd y lefel arferol o 80% "o fewn ychydig wythnosau".

Ychwanegodd bod y cytundeb diwethaf i redeg gwasanaeth Cymru a'r Gororau, gafodd ei ddyfarnu yn 2003, yn un "ofnadwy".

Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn dweud y dylai'r pwyllgor economi gynnal ymchwiliad llawn i'r trafferthion.

"Mae'r gwasanaeth trenau ar rwydwaith y Cymoedd wedi bod yn waeth na llanast dros yr wythnosau diwethaf, gydag oedi ar gyfer teithwyr ar draws de Cymru," meddai.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth wedi galw am ymddiheuriad gan Lywodraeth Cymru am y trafferthion.

Ar hyn o bryd mae 100 o drenau'r cwmni mewn gwasanaeth ond 103 sydd ei angen i gynnal gwasanaeth llawn.

Dywedodd pennaeth y corff fod disgwyl i'r gwasanaeth llawn dychwelyd o fewn ychydig wythnosau.