Buddugoliaeth i Forgannwg yn erbyn Sir Gaerloyw ym Mryste

  • Cyhoeddwyd
Marnus LabuschagneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Marnus Labuschagne 82 i sicrhau'r fuddugoliaeth

Mae Morgannwg wedi symud i frig ail adran Pencampwriaeth y Siroedd yn dilyn buddugoliaeth dros Sir Gaerloyw ym Mryste.

Roedd y tîm cartref wedi dechrau' diwrnod olaf ar 41-2, ond roedden nhw i gyd allan am gyfanswm o ond 161.

Cafodd Michael Hogan dair wiced, ac roedd dwy i Graham Wagg wrth i'r bum wiced olaf gwympo am ond 16 rhediad.

Rhoddodd hynny darged o 188 i Forgannwg yn y batiad olaf.

Marnus Labuschagne oedd prif sgoriwr Morgannwg gan gyfrannu 82, ac fe gafodd Billy Root 31 wrth i'r Cymry gyrraedd 188-6 a sicrhau buddugoliaeth o bedair wiced.