Cloddio am olion dynoliaeth mewn ogof yn Nhremeirchion
- Cyhoeddwyd

Mae archeolegwyr wedi ailgychwyn cloddio ar safle yn Sir Ddinbych allai ddatgelu cyfrinachau am hanes cynnar dynoliaeth.
Mae'r ogof yn un o'r llefydd prin ym Mhrydain lle mae olion o bresenoldeb homo sapiens a'r dyn Neanderthal ochr yn ochr â'i gilydd.
Bwriad y gwaith yw edrych ar rannau o ogof Ffynnon Beuno, yn Nhremeirchion, sydd heb gael sylw hyd yma.
Yn ôl Dr Rob Dinnis, sy'n arwain y prosiect, yr uchelgais yw darganfod tystiolaeth allai egluro mwy am y cyfnod cyn yr Oes Iâ diwethaf, rhwng 60,000 a 30,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn yr 1880au, ac roedd 'na gloddfa yno mor ddiweddar â phum mlynedd yn ôl.

Mae arteffactau fel y rhai yma - dannedd udfil (hyena) a chefyll gwyllt (dde) - eisoes wedi eu darganfod ar y safle
Dros y blynyddoedd mae nifer o arteffactau oedd yn perthyn i'r homo sapiens cynnar a'r Neanderthal wedi cael eu canfod, yn ogystal ag esgyrn a dannedd anifeiliaid fel ceirw, mamothiaid, llewod ac udfilod (hyena).
Yn bennaf, daeth i'r casgliad bod na ddynoliaeth wedi byw yn yr ogof cyn Oes yr Iâ.
'Dod o hyd i dystiolaeth well'
Gobaith Dr Dinnis yw cael "tystiolaeth archeolegol" o'r dyn cynnar a'r Neanderthal.

Dr Dinnis (dde) yn trafod y gwaith gyda pherchennog y safle, Jane Marsh
"Rydan ni'n gwybod ein bod ni'n cloddio yn y lle cywir, mewn cronfeydd lle allwn ni ddisgwyl dod o hyd i dystiolaeth o bresenoldeb y Neanderthal hwyr neu'r homo sapiens cynnar," meddai.
"Gan fod rhan o'r safle heb ei gloddio, mae 'na bosibilrwydd y gallwn ni ddod o hyd i fwy o dystiolaeth i adeiladu gwell llun o'r cyfnod."
Mae disgwyl i'r cloddio, sy'n dod ag archeolegwyr o brifysgolion ar draws Prydain ynghyd, gymryd tair wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd14 Mai 2019