Drama am ddirgelwch o gyfnod Charles yn Aber
- Cyhoeddwyd
Hanner can mlynedd ers seremoni arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon, mae drama radio newydd yn adrodd rhan o stori'r cyfnod fydd o bosib yn ddieithr i lawer o'r gynulleidfa.
Mae drama Yr Arwisgo wedi ei seilio ar ddigwyddiadau go iawn yn ystod cyfnod y Tywysog Charles fel myfyriwr yn Aberystwyth, ond dychmygol yw'r ddeialog.
Yma, mae Wiliam Owen Roberts yn egluro'r hanes a pham fod y digwyddiadau yn ystod y misoedd cyn yr Arwisgo wedi ei ysgogi i ysgrifennu drama:
Do'n i ddim wedi bwriadu ysgrifennu drama am yr Arwisgo.
Yr adeg yma y llynedd ro'n i'n ymchwilio i brosiect arall a oedd wedi ei leoli yn 1969, sef cyfres ddrama yn ymwneud â stiwdio newyddion, nid yn rhy annhebyg i'r Dydd gynt.
Ond yn ystod y cyfnod ymchwilio dyma fi'n dod ar draws hanes Yr Athro William Ogwen Williams, sef y dyn a gafodd y gwaith o ddysgu rhywfaint o hanes Cymru i'r Tywysog Charles yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Fel pawb arall, ro'n i'n weddol ymwybodol o rôl Teddy Millward a Bobi Jones yn dysgu Cymraeg iddo fo, ond roedd enw'r Athro Williams yn enw diarth.
Ond yr hyn a fagodd fy chwilfrydedd i oedd ei fod o wedi lladd ei hun gwta bythefnos ar ôl iddo fo ddechrau dysgu Charles Windsor. Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar draeth Ynys Las ar 5 Mai, 1969.
Cafodd cwest ei gynnal ac mae'r adroddiad ar gael i'w ddarllen yn y Western Mail. Ar ei derfyn, doedd neb fawr callach pam i'r Athro Williams wedi benderfynu lladd ei hun.
Dywedodd ei ddyweddi Mari Dafis Evans ei bod hi o'r farn ei fod o'n hapus ei fyd, a bod y weithred yn un hollol ddi-ddeall iddi hi. Doedd y ddau ond wedi dyweddïo ers 1 Mawrth, 1969 ac yn hwylio i briodi at y Nadolig. 45 oed oedd o a hithau'n 42.
Ond roedd William wedi cyfaddef wrth Mari ei fod o'n bryderus am ddiogelwch y Tywysog. Ac roedd ganddo fo dda reswm tros boeni.
Uned bom yn y dref
Bedwar diwrnod union cyn i Charles Windsor ddechrau ar ei yrfa addysgol yn Aberystwyth ar 20 Ebrill, 1969 fe ffrwydrodd bom ym mhencadlys newydd yr heddlu yng Nghaerdydd. Hon oedd y 12fed bom i ffrwydro yng Nghymru yn ystod y dair blynedd a aeth heibio. Roedd ymgyrch fomio Mudiad Amddiffyn Cymru ar ei hanterth.
Fel rhan o'r trefniadau diogelwch manwl yn Aberystwyth o dan Operation Cricket Harold Wilson a'r Swyddfa Gartre, mewn ymghynghoriad â M.I.5, cafodd uned bom ei letya yn y dref trwy gydol yr amser y bu'r Tywysog yn fyfyriwr yno.
Yn wir, roedd presenoldeb yr heddlu cudd yn drwch, a nifer ohonynt yn llechwra ymysg y myfyrwyr, gan wenwyno perthynas pobl â'i gilydd trwy greu paranoia.
Cefnogaeth a gwrthwynebiad
Roedd yr Arwisgo ei hun wedi corddi teimladau cryfion, a thra'n cnoi cil dros y digwyddiadau, dyma ddechrau sylweddoli fod yma ddeunydd a allai fod yn sail i ddrama.
Mae'n wir dweud fod y mwyafrif o Gymry o blaid yr arwisgo yng nghastell Caernarfon.
Ond roedd lleiafrif yn ffyrnig yn erbyn seremoni roedden nhw yn eu hystyried yn sarhaus ac yn ddiraddiol. Doedd yr Arwisgo yn ddim byd mwy na rhwbio trwynau'r Cymry yn eu hisraddoldeb oesol.
Roedd y bwriad i goroni mab Brenhines Lloegr yn Dywysog Cymru yn codi nifer o gwestiynau creiddiol am hunaniaeth y Cymry, a pha fath o bobl oeddem ni mewn gwirionedd - ac yn bwysicach, pa fath o bobl oeddem ni'n dymuno bod.
Roedd y lleiafrif a gredai fel hyn yn amlwg eu presenoldeb yn Aber, ac amryw a oedd yn fyfyrwyr Hanes Cymru i'r Athro William Ogwen Williams gyda'r mwyaf croch a llafar.
Mae'n rhaid ei fod o mewn lle annifyr iawn.
Mae drama Yr Arwisgo yn cael ei darlledu Dydd Llun-Mercher 1-3 Gorffennaf am 12.00 ar BBC Radio Cymru, ac ar gael ar BBC Sounds wedi'r darllediad
Hefyd o ddiddordeb: