Cynlluniau i adnewyddu teras hanesyddol ar y Cae Ras
- Cyhoeddwyd
Bydd teras hanesyddol yn stadiwm y Cae Ras yn Wrecsam yn cael ei adnewyddu fel rhan o gynlluniau i ddatblygu'r dref.
Bydd y datblygiad newydd ar Ffordd y Wyddgrug ar y ffordd fewn i'r dref hefyd yn gwneud gwelliannau i'r orsaf reilffordd a bydd gwesty pedair seren yn cael ei adeiladu gerllaw.
Yn ogystal, bydd teras y Kop ar y Cae Ras yn cael ei ddymchwel a bydd eisteddle newydd gyda 5,000 o seddi yn cael ei adeiladu i godi capasiti'r Cae Ras i dros 15,000.
Mae'r cynlluniau wedi cael eu disgrifio gan gyfarwyddwr CPD Wrecsam, Spencer Harris fel rhai "cyffrous" sy'n "cynyddu'r posibilrwydd i Wrecsam gynnal mwy o ddigwyddiadau rhyngwladol yn y dyfodol".
Yn ôl Arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard fe fydd y datblygiad yn "ail fywiogi un o'r prif ffyrdd fewn i'r dref drwy ddarparu busnesau newydd, ac isadeiledd newydd o ran cartrefi a chwaraeon".
"Mae CPD Wrecsam wedi cael eu gadael i lawr yn y gorffennol gan rai unigolion sydd allan o'n rheolaeth ni," meddai.
'Adnodd pwysig'
Ychwanegodd Mr Harris: "Yn ogystal â bod yn gartref i GPD Wrecsam, mae'r Cae Ras yn adnodd pwysig i Gymru.
"Gyda'n partneriaid, rydym yn teimlo'n gyffrous am y prosiect adnewyddu yma gan gynnwys y potensial i wneud y stadiwm yn opsiwn posib i gynnal digwyddiadau rhyngwladol."
Er nad yw trafodaethau ynglŷn â'r cyllid wedi'u cwblhau eto, mae Llywodraeth Cymru yn cael eu gweld fel galluogwyr i'r prosiect.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates AC: "Mae'r cynlluniau gan Wrexham Gateway Partnership yn ceisio darparu newid ar lefel lleol a rhyngwladol.
"Mae llawer o waith o'm blaenau, gyda'n gilydd mae gennym ni gyfle i gyflawni cysylltiadau gwell o fewn Wrecsam ac ar hyd yr ardal ehangach, drwy hefyd greu adeiledd busnesau allai yrru twf economeg gryf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd21 Mai 2018