Galw am help hir dymor i alarwyr wedi marwolaeth sydyn

  • Cyhoeddwyd
AngladdFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r gefnogaeth hir dymor i deuluoedd sy'n colli rhywun trwy farwolaeth sydyn neu annisgwyl.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru hefyd wedi dweud wrth raglen Manylu, Radio Cymru bod yna le i ehangu'r gefnogaeth uniongyrchol sydd ar gael gan sefydliadau fel y Gwasanaeth Iechyd a'r ffordd mae pobl yn cael gwybod am yr help sydd ar gael.

Rhybudd y Coleg yw y gallai diffyg cefnogaeth gael effaith hir dymor, er enghraifft bod unigolion yn troi'n bryderus neu'n isel eu hysbryd a chynyddu'r risg o hunanladdiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad i wasanaethau galar sydd ar gael yng Nghymru.

Mae tua 5,500 o bobl wedi arwyddo deiseb, dolen allanol yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth i sicrhau bod teuluoedd sy'n colli plant neu bobl ifanc yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen.

Pe bai'n llwyddiannus gallai'r ddeiseb gael ei thrafod gan y pwyllgor deisebau.

Barn y teuluoedd

Dechreuodd Nadine Marshall o'r Barri dderbyn cefnogaeth ar gyfer trawma yn 2015.

Cafodd ei mab Conner, 18 oed, ei lofruddio ym mharc carafanau Bae Trecco ym Mhorthcawl. Doedd hi ddim yn gwybod ble i droi am gymorth.

"O'n i'n gorfod ffindio'r wybodaeth 'na. Oedd e ddim yn rhan o'r strwythur bod yr heddlu yn rhoi gwybod neu o ran yr ochr gyfreithiol."

Pe na bai'r gefnogaeth ar gael yna mae Nadine yn ofni beth fyddai'n digwydd.

"Bydde ni'n siŵr yn delio gyda lot fwy o sefyllfaoedd o farwolaeth, hunan farwolaeth a jyst yr holl deuluoedd yma'n cael eu chwalu unwaith eto."

Disgrifiad,

Yn ôl Sharon Marie-Jones byddai cael rhywun i gyfeirio'r teulu at yr help priodol wedi bod o fudd mawr

Pump oed oedd Ned Jones o Gapel Bangor pan fu farw mewn damwain car yn 2016. Yn ôl ei fam Sharon Marie-Jones does dim digon o gymorth ar gael i'r teulu cyfan mewn amgylchiadau o'r fath.

"Ma'ch byd chi jyst yn chwalu pan chi'n cael y newyddion. Does dim byd yn neud synnwyr, chi ddim yn gallu deall dim byd.

"Mae'n bendant angen mwy o ddarpariaeth. Yn enwedig nawr, gallu edrych nôl ar y cyfnod pan ddigwyddodd y ddamwain, doedd dim digon o gymorth ar gael i ni fel teulu.

"Y cymorth gafon ni allai ddim ond canmol. Yr heddlu, fe fuon nhw'n gefnogol a'r swyddog heddlu, ond eto doedd 'na neb yna i gamu mewn a chymryd drosodd a esbonio pethau i ni.

"Oedd disgwyl i ni 'neud penderfyniadau oedd yn rhy anodd ar y pryd."

Cymorth ymarferol

Gall profedigaeth trwy unrhyw fath o farwolaeth sydyn adael ei ôl yn yr hir dymor. Weithiau mae'r rhai sy'n galaru yn teimlo'n ddiymadferth neu yn cael eu harwain i le tywyll iawn eu hunain.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn dweud bod angen datblygu ymhellach y gefnogaeth i deuluoedd mewn galar gan sefydliadau fel y Gwasanaeth Iechyd.

"Pan fyddwch chi'n cerdded i mewn i unrhyw feddygfa, mae yna gasgliad mawr o daflenni yno. Mae'n berffaith normal gweld taflenni yno am beth i'w wneud os oes gennych chi broblemau cefn.

"Mae mor syml â chael amrywiaeth o daflenni am bwy i droi atyn nhw os ydych chi'n wynebu rhywbeth mor ofnadwy â phrofedigaeth sydyn," medd cadeirydd y Coleg, Yr Athro Keith Lloyd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nadine Marshall gymorth gan elusen a therapydd holistig oedd yn help "emosiynol ac ymarferol" meddai

Un elusen sy'n darparu cefnogaeth i deuluoedd sydd wedi profi marwolaeth plentyn neu berson ifanc yn sydyn ac mewn sefyllfa drawmatig yw 2 Wish Upon A Star. Maen nhw'n ddibynnol ar gyfraniadau.

Dim ond ar hap y daeth Nadine ar draws cerdyn busnes yr elusen yn yr ysbyty.

Roedd yr elusen a'r therapydd holistig wnaeth hi ymweld â nhw yn help "emosiynol ac yn bendant yn ymarferol" meddai.

"Mae wedi rhoi'r cryfder a'r gefnogaeth oeddwn i'n chwilio amdano, oedd ddim ar gael drwy ddoctor neu bresgripsiwn."

Aromatherapi a therapi tylino yw'r math o wasanaeth sy'n cael ei gynnig gan therapydd holistig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wendy Jones yn dweud bod pobl yn dod i sylweddoli'r effaith bositif mae'r triniaethau yn medru eu cael

Yn ôl Wendy Jones, sy'n gwneud y gwaith, byddai'n ddefnyddiol pe bai mwy o bobl yn ymwybodol o'r therapïau.

"Mae lot o bobl yn d'eud dydyn nhw ddim yn gwybod sut mae foot massage neu ryw massage yn gallu 'neud unrhyw wahaniaeth.

"Wrth gwrs dyw e ddim yn mynd i newid y sefyllfa wyt ti yno fe, ond pan maen nhw'n dod i mewn maen nhw'n sylweddoli o fewn sesiwn neu ddwy fod be' dwi'n 'neud yn gallu helpu nhw achos mae e ar gyfer y corff i gyd, mae e yn driniaeth ar gyfer y corff i gyd er bo' ti'n 'neud e drwy'r traed."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae colli plentyn yn ddinistriol ac mi rydan ni eisiau sicrhau ein bod yn darparu'r gofal a'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd.

"Rydym yn gweithio gyda'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes, Marie Curie a Phrifysgol Caerdydd i adolygu gwasanaethau profedigaeth ac yn ystyried beth arall y gellir ei wneud i helpu pobl i ddechrau delio â phrofiad mor drasig. "

Mae sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth am brofedigaeth i'w gweld ar wefan BBC Action Line bbc.co.uk/actionline.

Bydd rhaglen Manylu yn cael ei darlledu ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Iau 4 Gorffennaf a'i hail ddarlledu ddydd Sul 7 Gorffennaf am 16:00.