Arian tuag at dimau newydd i daclo troseddau cyllyll

  • Cyhoeddwyd
dyn efo cyllellFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd tîm arbenigol newydd yn cael ei greu gan Heddlu De Cymru yn ardal Abertawe er mwyn ceisio taclo troseddau cyllyll.

Mae'n rhan o fuddsoddiad ychwanegol o £1.2m fydd hefyd yn cyfrannu at ymestyn cynllun tebyg sydd wedi ei sefydlu yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl i arian hefyd fynd tuag at gynlluniau cymunedol er mwyn atal pobl ifanc rhag mynd i drafferthion o'r fath yn y lle cyntaf.

Yn ôl Heddlu'r De fe allai'r cyllid eu helpu i daclo'r cyswllt rhwng troseddau cyllyll a'r farchnad delio cyffuriau.

'Pryder amlwg'

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Swyddfa Gartref gyhoeddi'r £1.2m o arian ychwanegol fel rhan o gynllun ehangach i daclo troseddau cyllyll.

Roedd Heddlu'r De eisoes wedi bod yn rhedeg cynllun 'Op Sceptre' ers haf 2018 i yn ardal Caerdydd.

Ym mlwyddyn gyntaf y cynllun hwnnw maen nhw'n dweud bod 220 o bobl wedi'u harestio a 90 o arfau wedi'u cymryd oddi ar y strydoedd, gyda gwerth £82,000 o gyffuriau hefyd wedi'u canfod.

Y bwriad nawr yw ymestyn y cynllun hwnnw, a gwneud rhywbeth tebyg yn Abertawe.

"Mae troseddau cyllyll yn bryder amlwg i'n cymunedau ni, yn enwedig yn ninasoedd Caerdydd ac Abertawe," meddai Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Matt Jukes.

"Mae'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu yn rhai sylweddol - efallai nad ydyn nhw mor fawr â rhai dinasoedd eraill, ond maen nhw'n hunllef i'r teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan y troseddau erchyll yma."

Ychwanegodd yr uwch-arolygydd Wendy Gunney: "Rydyn ni wedi canfod cysylltiad clir rhwng troseddau cyllyll a chyflenwi cyffuriau yng Nghaerdydd.

"Mae 'County Lines' wedi ansefydlogi'r farchnad gyffuriau lleol, gan godi'r bygythiad a risg ymhlith delwyr cyffuriau lleol.

"Fe fydd ein timau Op Sceptre allan yna ar y strydoedd yn ei gwneud hi'n anghyfforddus i unrhyw un sy'n edrych fel eu bod nhw'n ymwneud â throseddau cyllyll a chyffuriau."