Sinema Vue Caerfyrddin yn gostwng prisiau wedi beirniadaeth
- Cyhoeddwyd
Mae sinema yng Nghaerfyrddin wedi gostwng prisiau eu tocynnau yn dilyn beirniadaeth gan gwsmeriaid lleol.
Roedd sinema Vue wedi wynebu cryn feirniadaeth, gyda thocynnau yn costio bron ddwywaith gymaint yno nag yng Nghaerdydd.
Byddai teulu o bedwar yn y brifddinas yn talu £19 am docynnau, tra byddai tocynnau cyfatebol yn costio £34.16 yng Nghaerfyrddin.
Fe ostyngodd y sinema eu prisiau ar 4 Gorffennaf, gyda phob tocyn bellach yn dechrau o £4.99 ar unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.
Newid 'positif' i'r dref
Roedd rhieni wedi dweud bod y gwahaniaeth yn "annerbyniol" ac mai'r rheswm oedd nad oes cystadleuaeth leol yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd llefarydd ar ran Vue eu bod yn "edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid... ar brisiau newydd, is".
Yn ôl Anna Caroline Bowen - mam i ddau ac aelod o grŵp ymgyrchu i newid y prisiau yn y sinema - mae'r newyddion yn "bositif iawn, iawn".
"Roedden ni eisiau bod yr un fath â phob man arall, doedden ni ddim eisiau talu ddwywaith cymaint, ac rydyn ni wedi llwyddo i wneud hynny - ac mae hynny'n anhygoel, eu bod nhw wedi gostwng y pris," meddai.
"Gobeithio nad blip yw hyn!"
Mae Ms Bowen, o Bentre-Cwrt yn Sir Gaerfyrddin, yn amau y bydd mwy o bobl yn dechrau defnyddio'r sinema eto, ac y bydd hyn yn cael effaith dda ar yr ardal.
"Mae pobl am fwyta bwyd pan fyddan nhw'n gweld ffilm ac yn mynd i lefydd i fwyta," meddai.
"Bydden nhw'n cael eu tynnu i'r dref yn lle mynd i drefi eraill, fel maen nhw'n ei wneud nawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2018