Sinema Caerfyrddin 'ddwywaith yn ddrytach na Chaerdydd'
- Cyhoeddwyd
Mae criw o rieni yng Nghaerfyrddin wedi cyhuddo cwmni sinema o bron â dyblu eu pris mynediad o'i gymharu â'u canghennau eraill yng Nghymru.
Gallai teulu o bedwar sy'n dymuno gwylio ffilm yn sinema Vue yng Nghaerfyrddin wynebu talu £34.16, tra byddai tocynnau cyfatebol yn costio £19 yn sinema'r un cwmni yng Nghaerdydd.
Mae un rhiant wedi dweud bod y gwahaniaeth yn "annerbyniol" ac mai'r rheswm yw nad oes cystadleuaeth leol yng Nghaerfyrddin.
Mae Vue wedi dweud fod tocynnau rhatach ar gael i'w cwsmeriaid ar ddyddiau Llun, Mawrth a Mercher.
'Gwarthus'
"Mae'r prisiau yng Nghaerfyrddin yn warthus. Mae posib teithio i Abertawe i wylio ffilm yn rhatach," meddai Anna Caroline Bowen o Bentre-cwrt yn Sir Gâr.
Mae gan Vue sinemâu yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Merthyr Tudful, Cwmbrân, Caerdydd a Rhyl yng Nghymru.
Mae Ms Bowen yn aelod o grŵp ymgyrchu sy'n cymharu prisiau tocynnau ar gyfer holl sinemâu Vue yn y de.
Mae'r grŵp wedi dod i'r casgliad fod tocyn i ddau oedolyn a ddau blentyn i wylio ffilm ar brynhawn Sadwrn yn costio o leiaf £11.20 yn fwy yng Nghaerfyrddin nag unrhyw le arall.
Yng Nghaerdydd, roedd y bwlch yn codi i £15.16.
Ychwanegodd Ms Bowen: "Rydym wrth ein boddau'n mynd i'r sinema, ond dydyn ni ddim yn mynd i dalu dwbl y pris i fynd yno, allwn ni ddim ei fforddio.
"Os wnan nhw ostwng eu prisiau yna buasai llawer mwy o bobl yn mynd a'u cefnogi nhw."
'Prisiau gostyngedig'
Dywedodd llefarydd ar ran Vue: "Gall cwsmeriaid yn Vue Caerfyrddin fanteisio ar adloniant ar y sgrin fawr am brisiau gostyngedig gyda'r 'Super Monday' am £3.99, Mini Mornings am £2.49 a dau docyn am bris un ar ddyddiau Mawrth a Mercher gyda Meerkat Movies, a sgriniau i bobl hŷn am £3.99."
Mae Ms Bowen wedi ymateb i ddweud fod y cwmni yn methu'r pwynt.
"Mae rhieni yn gweithio ac eisiau mynd ar nosweithiau, dyddiau Sadwrn a Sul, ond does byth gostyngiadau yn ystod y cyfnodau yma," meddai.
"Dwi'n gwerthfawrogi mai'r penwythnosau yw'r cyfnod prysuraf iddyn nhw, ond i ni fod yn talu dwbl pawb arall? Mae hynny'n gwbl wallgof."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2017