Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi rhestr enwau lleoedd

  • Cyhoeddwyd
CriciethFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl rhestr enwau lleoedd Cymru, dim ond un c sydd yng nghanol enw Cricieth nid dwy fel sydd ar yr arwydd presenol

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi rhestr o enwau lleoedd safonol Cymru, sydd bellach ar gael ar-lein.

Mae'r rhestr wedi bod yn cael ei pharatoi ers sawl blwyddyn, ac mae'n datgan sillafiad cywir pentrefi, trefi a dinasoedd Cymru.

Gobaith ffurfio'r rhestr, sydd â dros 3,000 o safleoedd arni, yw i "warchod y cyfoeth o enwau lleoedd" yng Nghymru.

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, "Rydym yn hynod o falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gyhoeddi rhestr safonol o enwau lleoedd yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Nid gorfodi pobl i ddefnyddio'r enwau yw'r bwriad yn ôl Meri Huws

Ers blynyddoedd mae rhai o enwau lleoedd Cymru wedi bod yn destun sawl dadl ynglŷn â'r ffordd orau i'w sillafu.

O ran rhai dadleuol, does dim dwy 'c' yng nghanol Cricieth, mae yna dair n yn Llangrannog ac Abermo yw'r ffordd gywir o sillafu 'Bermo' neu 'Abermaw'.

Ychwanegodd Ms Huws: "Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol."

'Parchu a diogelu'

Bydd y rhestr yn cael ei lansio'n llawn yn ddiweddarach ddydd Mercher ym Mae Caerdydd.

Cadeirydd y panel o arbenigwyr yw'r Athro David Thorne, sydd hefyd yn Gadeirydd ar Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Dywedodd, "Mae enwau yn elfen bwysig o dreftadaeth pob gwlad.

"Maen nhw'n angori'r dreftadaeth honno, ac fel unrhyw elfen arall o dreftadaeth, maen nhw yn haeddu eu hanwylo, eu parchu a'u diogelu," meddai.

I ddarllen y rhestr y llawn ewch i dudalen arbennig ar wefan y Comisiynydd., dolen allanol